麻豆官网首页入口

1,000 yn llai o welyau ysbyty yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Hospital wardFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Coleg Nyrsio Brenhinol bod y ffigyrau'n dangos bod nyrsys yn gweithio o dan bwysau mawr

Ers tair blynedd mae mwy na 1,000 yn llai o welyau yn ysbytai Cymru, yn 么l ystadegau.

Hefyd mae mae ystadegau byrddau iechyd Cymru wedi cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wedi dangos bod nifer o ysbytai yn orlawn yn gyson.

Er mwyn rheoli heintiau fel MRSA, yr argymhelliad yw na ddylid llenwi mwy na 82% o welyau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylid barnu safon gofal yn y Gwasanaeth Iechyd ar sail ystod ehangach o ffactorau.

Ond mae rhai wedi rhybuddio y gallai gorlenwi ysbyty arwain at ohirio llawdriniaethau.

Rhwng Ebrill a Gorffennaf roedd dros 82% o'r gwelyau yn gyson yn llawn ymhob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

Ni ddylai hyn ddigwydd, yn 么l Coleg Brenhinol y Llawfeddygon.

Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol bod yr ystadegau'n dangos bod nyrsys yn gweithio "o dan bwysau mawr".

Gallai'r sefyllfa arwain at staff yn digalonni gan nad oes amser i ddarparu gofal i'r safon ofynnol.

Yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig, mae gorboblogi yn "dueddiad pryderus" ac maen nhw wedi rhybuddio y byddai cynlluniau byrddau iechyd i ad-drefnu yn arwain at golli mwy o welyau a mwy o orboblogi.

Trwy Gymru mae nifer y gwelyau yn yr ysbytai wedi gostwng o 12,612 yn 2009-10 i 11,597 yn 2011-12.

Gorboblogi 'peryglus'

Dywedodd Peter Meredith-Smith o'r Coleg Nyrsio Brenhinol: "Mae'r ystadegau'n pwysleisio'r pwysau enfawr ar staff.

"Mae bod yn y sefyllfa 'na, heb yr amser i ddarparu gofal i'r safon ddisgwyliedig, yn rhywbeth sy'n eu digalonni.

"Os yw'r sefyllfa fel hyn ym misoedd yr haf dyw hi ddim yn argoeli'n dda ar gyfer y gaeaf pan mae'r pwysau'n fwy."

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AC, fod yr ystadegau'n dangos tueddiad peryglus.

"Sut mae disgwyl i staff rheng flaen wneud eu gwaith pan maen nhw o dan y fath bwysau?" gofynnodd.

"Diolch i doriadau Llafur mae gan y GIG yng Nghymru y setliad gwaethaf yn y DU ac mae cynlluniau ad-drefnu yn argymell colli mwy o welyau.

"Mae hon yn broblem barhaus a fydd o bryder arbennig i'r bregus a'r oedrannus gan y gallai hyn beryglu eu gofal a'u hannibyniaeth.

'Lefel ddiogel'

"Y Gweinidog sydd 芒'r cyfrifoldeb am yr hyn y mae'r byrddau iechyd yn ei wneud ac fe ddylai fod yn gweithio gyda nhw i leihau gorboblogi."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd targedau swyddogol am raddfa poblogi gwelyau mewn ysbytai ond y dylai byrddau iechyd weithredu "ar lefel ddiogel ac effeithlon".

Ychwanegodd y llefarydd fod safon y GIG yn dibynnu ar ystod ehangach o ffactorau.

"Does neb am aros yn yr ysbyty am fwy nag sydd rhaid.

"Ein gweledigaeth yw y bydd y GIG ar gael i bobl pan fyddan nhw ei angen, gan ddarparu gwasanaethau modern yn nes at gartrefi ac yn canolbwyntio ar atal afiechyd.

"Mae hyn yn golygu symud i ffwrdd o ddefnyddio nifer gwelyau ysbyty fel ffon fesur a chanolbwyntio ar sut y gallwn ni gadw pobl allan o'r ysbyty - a darparu mwy o integreiddio gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

"Mae'n briodol felly bod nifer y gwelyau yn lleihau'n raddol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol