麻豆官网首页入口

Pennaeth am gynnal astudiaeth i ddatganoli S4C i dri safle o bosib?

  • Cyhoeddwyd
Ian JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ian Jones: Datganoli swyddi?

Bydd astudiaeth yn cael ei chynnal gan S4C i'r posibilrwydd o leoli prif swyddfeydd y darlledwr ar dri phrif safle ar draws Cymru.

Ar hyn o bryd un prif safle sydd yna a hynny ym Mharc T欧 Glas, Llanisien, Caerdydd.

Gwnaed y cyhoeddiad yngl欧n 芒'r astudiaeth gan Brif Weithredwr S4C, Ian Jones.

"Ar hyn o bryd, mae gan S4C ddau safle - ein pencadlys yn Llanisien yng Nghaerdydd a swyddfa lawer llai yng Nghaernarfon," meddai.

"Mae'r trefniant yma'n gweithio'n dda, yn arbennig pan ystyriwch fod dau o'n pump comisiynwyr yn gweithio yng Nghaernarfon.

"Felly gan ein bod yn gwybod ein bod yn gallu gweithio ar ddau safle'n llwyddiannus, pam na ddylid edrych ar bosibiliadau pellach i ddatganoli'n busnes."

'Datganoli'

Cafodd Mr Jones ei benodi'n brif weithredwr ym mis Ionawr, gan olynu Iona Jones wnaeth adael y swydd ym mis Gorffennaf 2010.

Yn y cyfamser bu Arwel Ellis Owen yn bennaeth dros-dro y sianel.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg ym mis Awst, dywedodd Mr Jones ei fod yn awyddus i ddatganoli rhannau o S4C, a hynny i dri safle.

Un o bosib yn y gorllewin neu'r canolbarth yn ogystal ag un yn y de ac un yn y gogledd.

Dywedodd ei fod am sicrhau bod buddiannau economaidd gwaith S4C yn cael eu rahnnu ar draws Cymru lle bo hynny'n bosib.

"Mae S4C eisoes yn ymdrechu'n galed iawn i sicrhau bod arian sy'n cael ei wario ar raglenni yn cael ei wario ym mhob rhan o Gymru," meddai.

"Mae astudiaethau wedi dangos bod tua 2,000 o swyddi'n cael eu cynnal gan ein gwaith drwy Gymru, ond dwi'n benderfynol o chwilio am gyfleoedd i wneud rhagor."