麻豆官网首页入口

Pryder bod bywydau mewn perygl oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o gyllid

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn derbyn rhan fwyaf o'u cyllid blynyddol gan gorff o'r enw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru ar ddeall y gallai cleifion fod mewn perygl gan nad ydi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymwybodol o gyfanswm eu cyllid eleni.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru yn ymwybodol fod aelodau o fwrdd yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans yn 'bryderus iawn' nad ydi eu cyllid ar gyfer eleni wedi'i gytuno arno'n derfynol.

Yn gynharach y mis yma, mewn cyfarfod cyhoeddus, mi wnaeth un aelod fygwth ymddiswyddo oni bai fo'r sefyllfa yn cael ei ddatrys.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud fod y sefyllfa yn "anghredadwy" ac yn rhoi'r gwasanaeth ambiwlans mewn "sefyllfa frawychus ac amhosibl" gan nad oes modd iddyn nhw wario'r gyllideb yn effeithiol.

Mae'r blaid yn honni fod effaith hyn yn rhoi "parafeddygon dan bwysau a straen mawr" ac y gallai gael effaith ar gleifion.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am ariannu'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans, ac rydym wedi cael sicrwydd eu bod yn ymrwymedig i gyd-weithio er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol ar gael er mwyn ymateb i gleifion sydd angen ambiwlans."

Yn 么l llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae'r Ymddiriedolaeth yn profi cynnydd yn y galw am wasanaethau ac rydym yn cynnal trafodaethau gyda'r byrddau iechyd ynghylch sut i reoli hyn."

Ffigyrau dros dro

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn derbyn y rhan fwyaf o'u cyllid blynyddol gan gorff o'r enw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC).

Mae aelodau'r pwyllgor yn cynnwys rheolwyr pob un o Fyrddau Iechyd Cymru.

Er bod Ymddiriedolaeth yr Ambiwlans wedi gosod dyddiad terfynol ar gyfer trafodaethau ar y gyllideb gyda'r pwyllgor ar ddiwedd Mehefin, dydi'r setliad terfynol ddim wedi'i gytuno arno sy'n golygu fod yr ymddiriedolaeth, yn ystod y chwe mis ers Ebrill, wedi bod yn gweithredu ar ffigyrau dros dro wedi'u rhagdybio.

Honnir fod yr ansicrwydd yngl欧n 芒 chyllid wedi cyfrannu at doriadau yn y gwasanaeth ambiwlans gan gynnwys gostyngiad sylweddol mewn taliadau goramser i staff.

Rhwystredigaeth

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi cael gafael ar gop茂au o nodiadau gan aelod o'r cyhoedd mewn cyfarfod agored Bwrdd Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Ambiwlans yn Abertawe ar Hydref 18 sy'n dangos lefel uchel o rwystredigaeth ymysg aelodau'r bwrdd.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi gwirio fod y nodiadau, ar y cyfan, yn rhoi cyfri cywir o'r drafodaeth.

Mae'r nodiadau hefyd yn nodi fod y cyfarfod wedi cael gwybod nad ydi PGIAC, ar hyn o bryd, yn ymwybodol o'u cyllid terfynol ar gyfer y flwyddyn, sy'n golygu na all "gynllunio na addasu ei gyllideb".

Mae'r nodiadau hefyd yn honni fod y cyfarfod wedi trafod canlyniadau negyddol hyn ar ddiogelwch cleifion a gallu'r ymddiriedolaeth i gwrdd 芒 thargedau cenedlaethol megis amseroedd ymateb ambiwlansys.

Nodwyd hefyd fod 'na fygythiad i ymdrechion yr Ymddiriedolaeth i fantoli'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn, fel y disgwylir gan Lywodraeth Cymru.

Yn 么l y cyfri, mae'r bwrdd yn honni fod hyn yn eu rhoi mewn "sefyllfa annheg gydag un aelod yn mynd mor bell ag i ychwanegu y byddai'n rhaid ystyried ei ddyfodol pe byddai'r sefyllfa bresennol yn parhau."

Dywed Llywodraeth Cymru mai byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am ariannu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

"Rydym wedi cael sicrwydd fod y byrddau a'r gwasanaeth wedi ymroi i gydweithio er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael er mwyn ymateb i gleifion sydd angen ambiwlans ar frys," meddai llefarydd.

Ychwanegodd y llefarydd bod y gweinidog iechyd wedi sicrhau fod 拢10 miliwn ar gael yn ddiweddar er mwyn cefnogi'r gwasanaethau gofal brys, a bod hyn yn cynnwys 拢1 miliwn ar gyfer gwelliannau yn y gwasanaeth ambiwlans.

Yn y cyfamser, mae ystadegau gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher yn dangos fod y Gwasanaeth Ambiwlans wedi methu a chyrraedd eu targed o ymateb i 65% o'r achosion mwyaf brys o fewn wyth munud.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol