麻豆官网首页入口

Maes awyr: Canolfan ranbarthol?

  • Cyhoeddwyd
Cardiff airportFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cardiff Airport has defended its performance despite a fall in passenger numbers in the first half of 2012

Mae yna gynlluniau uchelgeisiol i geisio trawsnewid maes awyr Caerdydd er mwyn bod yn ganolfan o bwys ar gyfer hediadau rhyngwladol.

Mae arbennigwyr yn y maes trefnidiaeth yn dweud y gellid sefydlu Caerdydd fel maes awyr cysllwt i Heathrow drwy fuddsoddi 拢250 miliwn.

Caerdydd fyddai'n bennaf gyfrifol wedyn am ddenu teithwyr o dros yr Iwerydd.

Byddai'r tiethwyr wedyn yn cael eu cludo ar dr锚n cyflym i Lundian o fewn awr.

Cynllun busnes

Y cam nesa i'r rhai y tu cefn i'r cynllun fydd gosod eu cynlluniau gerbron comisiwn annibynnol gafodd ei sefydlu gan y prif weinidog David Cameron er mwyn ymchwilio i ehangu darpariaeth meysydd awyr yn y Deyrnas Unedig.

Mae gr诺p Caerdydd yn cynnwys y dyn busnes Rudi Plaut, yr Athro Brian Morgan, yr arbenigwyr trafnidiaeth Martin Evans, a'r Athro Stuart Cole.

Mae nhw'n gweithio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu cynllun busnes.

Dywedodd y'r Athro Cole y gallai meysydd awyr Caerdydd a Bryste weithio ar y cyd pe bai cysylltiadau gwell ar ffyrdd a rheilffordd yn dod yn sgil unrhyw ddatblygiad i forglawdd aber Hafren.

"Y syniad yw bod Heathrow angen trydydd llain," meddai'r Athro Cole.

"Ond does yna ddim digon o le yn yr awyr uwchben y maes awyr ac mae'r boblogaeth yn lleol yn gwrthwyenbu beth bynnag.

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cardiff Airport has defended its performance despite a fall in passenger numbers in the first half of 2012

Dywed yr Athro Cole mai'r bwriad yw darparu pedwar o drenau cyflym bob awr rhwng Caerdydd a Llundain.

"Byddai hynny'n datrus problem trydydd llain Heathrow, ond hefyd yn golygu y byddai buddsoddiad mewn rheilffordd cyflym yn talu ei ffordd."

Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd eu bod nhw eisoes wedi ymateb i ymgynhgoriad llwyodraeth y Deyrnas Unedig, gan alw am fwy o r么l i faes awyr Caerdydd.

"Rydym yn deall fod grwpiau eraill wedi ymateb i'r ymynghoriad ac yn falch o glywed fod yna gefnogaeth i'r syniad o gryfhau maes awyr Caerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn awyddus i faes awyr Caerdydd wireddu ei botensial i fod yn faes awyr modern gyda chysylltiadau da.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol