麻豆官网首页入口

Celf i adfywio marchnad

  • Cyhoeddwyd
Marchnad y Bobl, WrecsamFfynhonnell y llun, Leslie Platt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhan o farchnad y bobl yn Wrecsam

Bydd cynllun celf newydd yn ceisio adfywio unedau gwag ym Marchnad y Bobl yn Wrecsam drwy wahodd artistiaid lleol i arddangos gwaith sydd wedi ei ysbrydoli gan eu perthynas 芒'r dre.

Cafodd y cynllun - 'A Sense Of Place' - ei drefnu gan Cyfuno, casgliad o wirfoddolwyr sy'n cael eu harwain gan artist o Wrecsam, Angela Davies.

Fe fydd y gwaith yn yr arddangosfa yn cynnwys gwaith gan artistiaid proffesiynol a myfyrwyr celf, ac yn amrywio o baentiadau a cherfluniau i ddarnau o gelf perfformio, gyda phob darn yn rhoi darlun o deimladau'r artist tuag at dre Wrecsam.

'Penigamp'

Dywedodd Michael Mullen, cyn gadeirydd Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Cenedlaethol a rheolwr cwmni TJ Carpets yn y farchnad:

"Rwy'n credu ei fod yn syniad penigamp, ac yn ffordd wych o ddenu cwsmeriaid newydd i'r farchnad."

Mae cynlluniau tebyg wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol, ac fel y mae Angela Davies yn egluro, fe ddylai'r cynllun yma fod yn sbardun i ddefnyddio celf fel modd o adfywio'r dref.

"Yr elfen bwysicaf o'r cynllun yw creu cymuned greadigol o fewn y dref fel bod gennym lwyfan i gyflwyno talent lleol mewn lle cyhoeddus," meddai.

"Gyda digwyddiadau fel 'A Sense Of Place', gallwn ddechrau sefydlu diwylliant creadigol fel y gall digwyddiadau a chynlluniau eraill ddilyn."

Bydd 'A Sense Of Place' yn agor ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 3, ac yn cael ei lansio gan raglen o adloniant sy'n cynnwys perfformiad arbennig gan G么r Cymunedol Wrecsam.

Daeth cefnogaeth i'r cynllun gan Brifysgol Glynd诺r, Cyngor Wrecsam a'r cwmni ymgynghori'r celfyddydau gweledol ADDO.

Bydd y cynllun i'w weld bob dydd Iau, Gwener a Sadwrn rhwng 10am a 5pm tan Dachwedd 30, ac fe fydd mynediad yn rhad ac am ddim.