麻豆官网首页入口

Cartrefi gofal: Pryder Comisiynydd Pobl H欧n Cymru

  • Cyhoeddwyd
Nyrs mewn cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 23,000 o bobl h欧n yn aros mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Yn 么l Comisiynydd Pobl H欧n Cymru mae problemau systemig yn golygu bod rhai pobl hyn yn mynd i gartrefi gofal heb fod angen.

Dywed Sarah Rochira fod cynllunio gwael wrth i gleifion adael yr ysbyty a diffyg cyfathrebu rhwng y Gwasanaeth iechyd a gwasanaethau lleol wrth wraidd y broblem.

Mae tua 23,000 o bobl h欧n yn aros mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Dywedodd Ms Rochira wrth raglen The Wales Report ar 麻豆官网首页入口 Cymru nad yw rhai pobl hyn yn cael y wybodaeth sydd ei angen ac a fyddai yn eu galluogi i aros adref.

"Un o'r pethau sy'n fy mhoeni yw'r amrywiaeth yn y wybodaeth a chyngor mae pobl yn ei gael," meddai.

Un o'r rhai sy'n dweud iddi ddioddef oherwydd diffyg gwybodaeth yw Alma Johns o Hengoed.

Gwybodaeth

Ar 么l bod yn s芒l a chael clun newydd, roedd angen gosod cyfarpar yn ei chartref er mwyn iddi allu ymdopi

Ond dim ond drwy gyd-ddigwyddiad y cafodd hi'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn osgoi gorfod mynd i gartref gofal yn ei 50au hwyr.

"Dim ond drwy sgwrs ar hap gyda gweithwyr cymdeithasol y cefais y wybodaeth.

"Nawr mae gennyf gadair gosod a bariau gafael ar gyfer y gawod, ond fe wnaeth hyn gymryd rhyw ddwy flynedd cyn i bopeth gael ei gwblhau.

"Ond, oni bai am y sgwrs mae'n debyg y byddwn wedi gorfod gwerthu'r t欧 a symud i gartref ar gyfer pensiynwyr.

Cyfyngiadau

Dr David Leopold yw un o brif ymgynghorwyr Cymru ym maes pobl h欧n.

Mae o'n dweud yn aml iawn nad yw penderfyniadau i symud pobl i gartrefi gofal ar 么l cyfnod yn yr ysbyty yn cael ei wneud gan y meddyg na chwaith y claf.

"Prin iawn yw'r adegau pan mae'r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y meddyg," meddai.

Mae o hefyd o'r farn y gallai symud i gartref gofal gael effaith gwael ar iechyd person h欧n.

Mark Drakeford yw cadeirydd ymchwiliad y cynulliad i ofal preswyl ar gyfer pobl h欧n.

Mae o'n hyderus y bydd safonau yn gwella er gwaethaf cyfyngiadau ariannol.

Mae o'n anghytuno gyda Comisiynydd Pobl H欧n Cymru nad yw rhai pobl yn gyfrifol am wneud y dewis o fynd i gartref gofal.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Crymu: "Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu arian i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi'r gwasanaethau cymdeithasol.

"Dros y cyfnod 2011-12 i 2013-14, rydym wedi ymroi i gynyddu cyllid 1% yn fwy na'r cynnydd yn y cymhorthdal bloc i Gymru. Mae hynny'n golygu 拢35 m yn ychwanegol i wasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol."