麻豆官网首页入口

Gweinidog yn gwneud tro pedol ar orfodi prifysgolion i uno

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ddim yn uno - am y tro - gyda Phrifysgolion Morgannwg a Chasnewydd

Cafodd Gweinidog Addysg Cymru ei gyhuddo o wneud tro pedol ar 么l tynnu'n 么l ymgynghoriad i uno tair prifysgol yn y de ddwyrain.

Mae Leighton Andrews wedi canslo'r ymgynghoriad ar ddiddymu Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Yn 么l Mr Andrews mae'r pwyslais erbyn hyn ar uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd.

Fe wnaeth y gweinidog y cyhoeddiad yn Y Senedd ddydd Mawrth.

Aeth ymlaen i ddweud bod Prifysgolion Morgannwg a Chasnewydd yn dymuno uno yn gynt yn hytrach na'n hwyrach.

Fe ddaw'r uniad diweddara i brifysgolion Cymru i rym ym mis Ebrill 2013.

Roedd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi gwrthwynebu'r cynlluniau ac yn anfodlon cael eu gorfodi i uno.

Ym mis Hydref dywedodd bwrdd y brifysgol eu bod yn cael cais i uno gyda'r ddwy arall a hynny heb achos busnes cywir.

'Oedi'

Dywedodd y cadeirydd fod cynllun Mr Andrews yn gostus ac yn risg uchel pan fo opsiynau eraill ar gael.

Ond dywedodd y gweinidog fod 'na "gamau sylweddol" wedi ei wneud gan y ddau gorff arall i symud ymlaen ac felly ei fod wedi penderfynu canslo'r ymgynghoriad efo'r brifysgol yng Nghaerdydd.

Roedd y ddwy brifysgol arall yn poeni y byddai uno rhwng tri sefydliad yn achosi oedi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Leighton Andrews yn dal yn dymuno gweld un brifysgol enfawr yn y de ddwyrain

"Byddaf nawr yn aros am y cynllun busnes sy'n cael ei lunio gan Brifysgol Cymru Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg," meddai Mr Andrews.

"Dwi ddim wedi gwneud penderfyniad ar hyn o bryd a byddaf yn ystyried yn ofalus yr achos pan ddaw i law."

Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio yn agos gyda'r ddau sefydliad i sicrhau "uno llyfn" a fydd yn cynnwys unrhyw ystyriaeth am gymorth ariannol pellach.

Ers mis Tachwedd 2011 mae Mr Andrews wedi gwneud hi'n glir ei fod eisiau gweld un brifysgol enfawr yn y rhanbarth.

Dywedodd wrth ei gyd-aelodau ddydd Mawrth mai dyna oedd ei fwriad o hyd ac mae'n bosib mai dim ond oedi dros dro sy'n wynebu Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, fod hwn yn dro pedol sylweddol i'r gweinidog addysg.

"Ond mae diplomatiaith wedi trechu agwedd ymosodol," ychwanegodd.

"Mae'r holl sefyllfa yn anfon neges glir i'r gweinidog nad ydi tactegau bwlio yn gweithio ac y dylai dyfodol addysg uwch fod ar sail cydweithio nid gorfodi uno."

Yn falch

Fe wnaeth Simon Thomas o Blaid Cymru, groesawu'r cyhoeddiad.

"Roedd Plaid Cymru wedi rhybuddio o'r dechrau bod y gweinidog wedi trafod y mater yn anghywir.

"O'r dechrau fe wnaethom alw ar y llywodraeth i fabwysiadu ymdriniaeth wirfoddol i'r uno."

Mewn ymateb dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Barbara Wilding, eu bod yn falch bod y llywodraeth wedi canslo'r broses ond ei bod am ystyried y datganiad yn fanylach cyn gwneud sylw pellach.

"Rydym yn falch o ddeall bod yr uno rhwng Morgannwg a Chasnewydd yn parhau ac yn dymuno'r gorau iddyn nhw."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol