麻豆官网首页入口

TGAU: Gweinidog yn ofni beirniadaeth

  • Cyhoeddwyd
Arholiad TGAUFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd 2,386 o ddisgyblion raddau gwell yn dilyn yr ailraddio

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud na wnaeth o ymyrryd i geisio newid y ffordd yr oedd papurau TGAU Saesneg Iaith yn cael eu graddio yng Nghymru - rhag ofn iddo gael ei feirniadu'n hallt gan y cyfryngau ac aelodau'r cynulliad.

Fe wnaeth Leighton Andrews ei sylwadau wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad ddydd Iau.

Fe gafodd nifer o ddisgyblion raddau is na'r disgwyl yn yr arholiad gwreiddiol wedi i fyrddau arholi yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gael gorchymyn gan reoleiddwyr i godi'r trothwy ar gyfer rhoi gradd C yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi canfod bod Llywodraeth Cymru wedi cael rhybudd y gallai ei phenderfyniad i ailraddio papurau TGAU Saesneg "niweidio" cyfanrwydd y cymhwyster.

Cafodd bron i 2,400 o ddisgyblion yng Nghymru, a safodd arholiad TGAU Saesneg Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), radd well wedi'r ailraddio.

Daeth i'r amlwg bod Prif Weithredwr CBAC wedi rhybuddio'r gweinidog yn erbyn yr ailraddio.

Mynnodd Mr Andrews bod "anghyfiawnder" wedi cael ei gywiro ar 么l yr ailraddio.

Wrth gael ei holi gan Simon Thomas AC Plaid Cymru, eglurodd Mr Andrews pam na wnaeth o ymyrryd ym mis Gorffennaf, pan ddaeth hi i'r amlwg gyntaf bod problem.

"Petawn i'n ymyrryd pryd hynny, fe fyddai'n golygu fy mod yn dweud bod y graddau yng Nghymru yn cael eu gosod ar sail wahanol i'r graddau yn Lloegr.

"Petawn i wedi gwneud hynny fe fyddwn yn cael fy nghroesholi gan y wasg a gan aelodau o'r Cynulliad gan mai bach iawn o dystiolaeth fyddai gen i selio'r penderfyniad."

Aeth ymlaen i egluro os ydi gweinidog yn ymyrryd mae angen tystiolaeth ddigonol i wneud hynny.

"Doedd gen i ddim y dystiolaeth tan yr adroddiad gefais i ar 么l yr adolygiad wnes i ofyn i swyddogion ei gynnal a hynny ar 么l i'r canlyniadau ddod i law."

Ychwanegodd ei fod yn credu ei bod yn bwysig fel gweinidog iddo "ymyrryd pan oedd 'na faterion sylfaenol" i wneud hynny.

Dywedodd hefyd nad oedd yn sicr a oedd cael tair system rheoleiddio i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn mynd i barhau.

Adolygiad

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Leighton Andrews yn ymddangos gerbron pwyllgor yn y Cynulliad i ateb cwestiynau am y mater

Daeth rhybudd CBAC i'r gweinidog beidio ailraddio'r canlyniadau yn ystod trafodaethau dwys ym mis Medi yngl欧n ag a ddylid ailraddio'r papur Saesneg i ddisgyblion yng Nghymru.

O fewn wythnos, roedd y gweinidog addysg wedi gorchymyn adolygiad o'r trothwy graddau, gan arwain at raddau uwch i 2,386 o ddisgyblion yng Nghymru.

Yn wreiddiol gwrthododd CBAC ag ailraddio, ond fe ddefnyddiodd y gweinidog ei bwerau cyfreithiol a'u gorchymyn i wneud hynny.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru nawr wedi canfod bod Prif Weithredwr CBAC, Gareth Pierce, wedi rhybuddio mewn e-bost yn erbyn ailraddio i Gymru yn unig.

Dywedodd y byddai'n creu "safon ranedig" i'r arholiadau yng Nghymru o gymharu 芒'r rhai yn Lloegr.

Ychwanegodd y byddai ailraddio yn "niweidio'n ddifrifol cyfanrwydd y cymhwyster", ac y gallai arwain at heriau cyfreithiol yn erbyn CBAC gan ganolfannau yn Lloegr.

Fe fyddai hynny'n rhoi'r bwrdd arholi mewn "sefyllfa anghynaladwy".

Newid meddwl

Yn y gorffennol, dywedodd y gweinidog bod goblygiadau llawn yr hyn a gytunodd dros yr haf ond wedi dod i'r amlwg pan gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi, a bod angen yr adolygiad er tegwch i ddisgyblion Cymru.

Mae dogfennau eraill a roddwyd i'r 麻豆官网首页入口 o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cynnwys cofnodion cyfarfod o bwyllgor CBAC wedi i'r ailraddio gael ei orchymyn ym mis Medi.

Maen nhw'n datgelu anniddigrwydd mawr ymysg yr aelodau am y newid.

Maen nhw'n mynegi pryderon difrifol am y goblygiadau, a bod y pwyllgor yn cael ei adael mewn sefyllfa anghynaladwy drwy orfod argymell rhoi gradd wahanol i ddisgyblu yng Nghymru i ddisgybl yn Lloegr a gafodd union yr un marc.

Yn Lloegr, fe gynhaliwyd ymchwiliad byr gan Ofqual a ddaeth i'r canlyniad bod arholiadau TGAU Saesneg ym mis Ionawr eleni wedi cael eu "graddio'n hael", ond bod y ffiniau rhwng graddau wedi eu gosod yn gywir ym mis Mehefin.

Cymhwyster newydd

Mynnodd y corff y byddai'n amhriodol i'r naill arholiad na'r llall gael eu hailraddio, ond fe fydd disgyblion yn cael cyfle ychwanegol i ail-sefyll yr arholiad TGAU.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae adolygiad o raddio Saesneg TGAU wedi cael ei orchymyn.

Yn y cyfamser fe ddaeth i'r amlwg bod CBAC wedi derbyn achrediad ar gyfer eu cymhwyster TGAU Saesneg Iaith newydd.

"Rydym yn hyderus iawn bod y cymhwyster newydd yn cyrraedd yr un safonau uchel ag a osodir gennym ni a'r rheoleiddwyr ar gyfer ein holl gymwysterau," meddai llefarydd.

Mae'n golygu llai o bwysau ar asesiadau dan oruchwyliaeth a mwy ar yr arholiad terfynol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol