Adeiladu: "Ardaloedd gwaharddedig"

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Sefydlodd Steve Morgan gwmni Redrow ym 1974

Mae cadeirydd cwmni adeiladu tai mwyaf Cymru wedi honni y bydd rhannau o'r wlad yn "ardaloedd gwaharddedig" os bydd rheoliadau adeiladu yn cael eu tynhau.

Honnodd Steve Morgan, sefydlodd gwmni Redrow yn Sir y Fflint ym 1974, y byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru i orfodi cartrefi i ddefnyddio ynni'n fwy effeithiol yn golygu mwy o gostau.

Mae Mr Morgan yn credu na fydd tai fforddiadwy'n ymarferol yn ardaloedd fel Wrecsam a Chymoedd y De.

Ychwanegodd ei fod yn haws i adeiladu tai yn Lloegr ac na fydd tai yn cael eu hadeiladu heb gymhorthdal mewn rhai ardaloedd o Gymrul.

'Gostwng biliau ynni'

Yn 么l Mr Morgan bydd cynigion am safonau amgylcheddol uchel a gosod taenellwyr d诺r mewn cartrefi yn ychwanegu 拢11,000 i'r gost o adeiladu t欧 芒 thair ystafell wely yng Nghymru erbyn 2015.

Dywedodd y byddai'r newidiadau arfaethedig yn golygu na fyddai'n "fforddiadwy" adeiladu tai mewn rhai ardaloedd o'r wlad.

"Rwy'n pryderu y bydd ardaloedd eang o Gymru yn 'ardaloedd gwaharddedig' o ran adeiladu tai oherwydd ni fydd adeiladwyr yn gallu gwneud yr elw y byddan nhw'n eu hangen," meddai.

"O ganlyniad ni fyddwn yn trafferthu adeiladu yng Nghymru a dechrau adeiladu yn Lloegr."

Yn gynharach eleni dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n parhau 芒'u polisi o osod taenellwyr d诺r mewn pob cartref newydd erbyn 2013 er iddynt gael eu hysbysu na fyddai'r cynllun yn gost-effeithiol.

Achub bywydau

Mae gweinidogion wedi dweud y bydd y cynllun yn debygol o achub 36 o fywydau ac arbed 800 o bobl rhag cael eu hanafu rhwng 2013 a 2022.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bwriad y cynigion o ran newidiadau i reoliadau adeiladu a gosod taenellwyr d诺r mewn tai yng Nghymru yw gostwng biliau ynni a chynyddu safonau diogelwch.

"Rydym yn cydnabod y byddai goblygiadau o ran cost i adeiladwyr tai ac o bosib y byddai goblygiadau i ardaloedd bychan eu gwerth a dyna pam fod dau ymgynghoriad llawn yn perthyn i'r ddau gynnig.

Mae'r llywodraeth ar hyn o bryd yn dadansoddi ymatebion i'w ymgynghoriad ynghylch cynigion i gynyddu perfformiad ynni cartrefi newydd.

"Mae deddfwriaeth Ewrop yn gofyn am gynnydd arwyddocaol o ran perfformiad ynni erbyn 2021," meddai'r llefarydd.

"Rydym yn bwriadu cyflwyno ein cynigion erbyn 2015 ac maent yn ymgais i gyrraedd y gofynion hyn.

"Bydd y cyflwyno graddol yn galluogi'r diwydiant adeiladu i gynllunio o flaen llaw."