Disgwyl newidiadau i gymwysterau

Disgrifiad o'r llun, Gall system arholiadau wahanol fodoli yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • Awdur, Gwenfair Griffith
  • Swydd, Gohebydd Addysg 麻豆官网首页入口 Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canlyniad arolwg i gymwysterau yn ddiweddarach fore Mercher.

Mae'r arolwg wedi bod yn ystyried a ddylai Cymru gadw arholiadau TGAU a Safon Uwch ai peidio.

Y disgwyl yw y bydd y ddogfen yn datgelu cynlluniau i gryfhau'r cymwysterau, a hefyd yn ystyried a ddylid rhoi mwy o bwyslais ar gymhwyster y Fagloriaeth Gymreig.

Fe fydd y cyhoeddiad yn dylanwadu ar ddyfodol y byd addysg yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.

Diwallu anghenion

Ers mis Mai, mae'r bwrdd adolygu annibynnol wedi bod yn ymgynghori'n eang, gan holi prifysgolion, cyflogwyr, undebau athrawon ac eraill os yw'r cymwysterau presennol yn diwallu anghenion economi Cymru.

Gan fod disgyblion Cymru yn astudio dros 6,500 o gymwysterau ar hyn o bryd, y nod yw symleiddio'r sustem.

Mae disgyblion wedi bod yn astudio cyrsiau TGAU ers 1988 a'r arholiadau Safon Uwch ers pumdegau'r ganrif ddiwethaf - ac mae nifer y disgyblion sy'n astudio'r Fagloriaeth Gymreig wedi bod yn cynyddu ers i'r cymhwyster yna gael ei chyflwyno ar draws y wlad yn 2007.

Yr hyn y mae'r bwrdd sydd wedi bod yn cynnal yr ymgynghoriad wedi bod yn ei ystyried yw anghenion disgyblion Cymru ac anghenion byd busnes. Beth yw'r sgiliau angenrheidiol sydd angen ar ddisgyblion nawr wrth iddyn nhw wynebu'r byd gwaith modern?

Mae cadeirydd y bwrdd, cyn bennaeth Coleg Llandrillo Huw Evans, wedi dweud ei fod e eisiau symleiddio'r broses sydd gyda ni, a chreu system newydd fydd yn cystadlu ar lefel rhyngwladol a gwledydd dros y byd.

Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi dangos yn y gorffennol ei frwdfrydedd am y Fagloriaeth Gymreig, ac mae Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, eisoes wedi dweud y bydd Bagloriaeth Lloegr yn disodli'r TGAU dros y ffin.

Disgrifiad o'r llun, Gorchmynnodd Leighton Andrews ail farcio papurau TGAU Saesneg yng Nghymru

Ffrae TGAU

Mae'n debyg i'r ffrae am arholiadau Saesneg TGAU yng Nghymru eleni ddylanwad mawr ar y panel.

Bryd hynny fe orchmynnodd Mr Andrews i'r papurau Saesneg gael eu hail farcio gan Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), ac fe arweiniodd hynny at bron 2,400 o ddisgyblion yng Nghymru yn cael graddau gwell.

Dadl Mr Andrews oedd nad oedd y dull gwreiddiol o farcio yn deg, ond doedd reoleiddwyr byrddau arholi Lloegr - Ofqual - ddim yn cytuno.

Fe gododd hynny gwestiynau am y berthynas rhwng rheoleiddwyr y ddwy wlad, a chwestiynau a ddylai'r Gweinidog Addysg yng Nghymru parhau o fod yn reoleiddiwr dros Gymru.

Fe fydd hi'n ddiddorol gweld a fydd unrhyw ystyriaeth i ddyfodol CBAC, a phwy fydd yn rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru yn y dyfodol pan ddaw'r cyhoeddiad am 9:00am fore Mercher.