麻豆官网首页入口

Cryfhau'r Fagloriaeth Gymreig

  • Cyhoeddwyd
Arholiadau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cryfhau TGAU yn ogystal 芒 chryfhau'r Fagloriaeth yw'r nod

Mae adolygiad o gymwysterau yng Nghymru yn argymell y dylai disgyblion ysgolion uwchradd barhau i sefyll arholiadau TGAU fel rhan o gwrs y Fagloriaeth Gymreig.

Dyna brif argymhelliad adroddiad sydd hefyd yn argymell sefydlu corff newydd i osod a rheoli arholiadau yn ysgolion Cymru.

Cynhaliwyd yr adolygiad oherwydd pryder gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yngl欧n 芒 chymhlethdod y drefn bresennol. Mae 6,500 o gymwysterau gwahanol yn cael eu cynnig ar hyn o bryd.

Mae Cadeirydd yr Adolygiad sef cyn Bennaeth Coleg Llandrillo, Huw Evans, o'r farn y dylid adeiladu ar sail yr enw da sydd gan yr arholiadau TGAU a Safon Uwch.

'Anorfod'

Byddai gweithredu'r argymhellion yn creu trefn sy'n wahanol i'r un Seisnig ond mae hynny, meddai, yn "anorfod".

Yn Lloegr, bydd arholiadau TGAU yn y pynciau craidd yn cael eu disodli gan gymhwyster newydd, y Fagloriaeth Seisnig.

Bydd y Fagloriaeth Seisnig yn seiliedig ar arholiadau diwedd tymor yn unig, gyda'r disgyblion cyntaf yn eu sefyll yn 2017.

Fe fydd y drefn Gymreig yn wahanol gyda disgyblion yn parhau i ddysgu drwy 'fodiwlau' gan gael marciau fydd yn cyfri tuag at y graddau terfynol.

Cafodd y Fagloriaeth Gymreig ei lansio yn 2002, ac yn ogystal 芒 phynciau academaidd megis mathemateg ac ieithoedd, mae hefyd yn cynnwys profiad gwaith a gwaith gwirfoddol.

Mae adroddiad Huw Evans yn cynnwys 42 o argymhellion. Gall disgyblion 16 oed gael Bagloriaeth drwy ennill 5 o bynciau TGAU gyda graddau rhwng A ac C.

Bydd Bagloriaeth arall ar gyfer disgyblion Safon Uwch. Cryfhau TGAU yn ogystal 芒 chryfhau'r Fagloriaeth yw'r nod.

Argymhelliad arall yw sefydlu corff newydd sef Cymhwyster Cymru i reoleiddio a dyfarnu cymwysterau.

Y Gweinidog Addysg sy'n rheoleiddio'r drefn arholi ar hyn o bryd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol