麻豆官网首页入口

Datganiad yr Hydref: Edrych ymlaen

  • Cyhoeddwyd
Canghellor, George OsborneFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dim "gwellhad gwyrthiol"

Mae disgwyl i'r Canghellor George Osborne ddweud nad oes yna "wellhad gwyrthiol" i broblemau economaidd y DU wrth iddo draddodi datganiad yr hydref.

Bydd yn dweud bod y glymblaid yn mynd i'r afael 芒'r gwaith caled o leihau'r diffyg ariannol yn ei ddatganiad ar gyflwr yr economi yn Nh欧'r Cyffredin am 1230 ddydd Mercher.

Bydd Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb hefyd yn cyhoeddi ei rhagolygon ar gyfer twf economaidd ddydd Mercher.

Os yw'r ffigyrau mor anffafriol ag y mae nifer wedi darogan, gall effeithio ar allu'r Canghellor i leihau'r ddyled.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb wrth y Post Cyntaf: "Y peth olaf 'da ni eisiau'i wneud fel llywodraeth ydy cyhoeddi bod targedau ddim yn mynd i gael eu hitio, ond y rheswm ma' nhw ddim wedi cael eu hitio ydy nid oherwydd ein bod ni heb lwyddo i leihau gwariant cyhoeddus, ond yn hytrach oherwydd bod yna ddim twf wedi bod yn yr economi fel roedden yn ei ddisgwyl.

"Felly mae'r ffigyrau yn mynd i fod yn siomedig, ond dwi'n credu bod yr holl arbenigwyr yn datgan bod eisiau parhau 'da'r rhaglen waith sydd gan y llywodraeth a dyma'r ffordd iawn i fynd i'r afael 芒'r ffaith fod gan Brydain broblemau sylweddol yn y byd ariannol."

'Codi hyder'

Mae'r Blaid Lafur wedi galw polisi economaidd y llywodraeth yn "fethiant ofnadwy".

Yn 么l yr Albert Owen, AS Llafur, mae'n bryd i'r Canghellor newid trywydd.

"Y ffordd allan o hwn ydy tyfu'r economi.

"Rydyn ni i gyd eisiau neud hwnna, ond dyw jyst torri yn 么l ddim yn gweithio, mae'n tynnu arian allan o'r economi, mae busnes ddim yn buddsoddi yn yr economi, mae treth ddim yn dod i mewn."

"Tydi'r hyder ddim yna r诺an, mae rhaid i ni godi'r hyder, a'r ffordd i neud o yw gweld y llywodraeth yn helpu busnes, tydi o ddim ar y pryd."

Mae Plaid Cymru am weld cyhoeddiad yngl欧n 芒 gweithredu argymhellion Comisiwn Silk.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards fod y blaid hefyd yn croesawu awgrym y gallai'r Canghellor gyhoeddi 拢5 biliwn ar gyfer prosiectau cyfalaf.

"Ond yn anffodus y ffordd mae e'n neud e yw gwneud mwy o doriadau yn y gyllideb refeniw."

"Beth fydden ni'n hoffi gweld e'n neud yn hytrach, yw codi treth Twm Si么n Cati fel y'n ni'n galw fe yng Nghymru, ar y ddinas a defnyddio'r arian hynny wedyn i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf neu fenthyg o'r farchnad."

Yn 么l y Democrat Rhyddfrydol yr Arglwydd Roberts o Landudno: "Dy' ni ddim yn rhyw ynys fach allan o gysylltiad efo pobl eraill: beth sy'n digwydd yn yr Eurozone... beth sy'n digwydd i bris tanwydd o'r dwyrain canol, mae'r rhain i gyd yn dylanwadu ar beth sydd am fod yn y datganiad heddiw, ond be' hoffwn i weld ydy datganiad sy'n deg, yn enwedig i'r rhai sydd leia' abl i gynnal eu hunain."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol