麻豆官网首页入口

Methu 芒 chyflwyno cynlluniau brys

  • Cyhoeddwyd
Treth y CyngorFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Honnodd Llywodraeth Cymru fod yna oedi o du'r Trysorlys wrth ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu 芒 chyflwyno cynlluniau brys ar gyfundrefn newydd lwfansau treth cyngor.

Methodd y Llywodraeth 芒 sicrhau mwyafrif yn y Cynulliad ac mae'n bosib y bydd yr aelodau'n cael eu galw yn 么l o'u gwyliau Nadolig i drafod ymhellach.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gobeithio y byddai'r Cynulliad yn pleidleisio i gymeradwyo cynllun budd-dal treth y cyngor fydd yn effeithio ar 330,000 o gartrefi.

Honnodd Llywodraeth Cymru fod yna oedi o du'r Trysorlys wrth ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol.

Ond gwadu hynny mae'r Trysorlys sydd wedi dweud bod cynghorau lleol yn Lloegr wedi cael yr un faint o wybodaeth ac wedi paratoi.

300 tudalen

Pleidleisiodd y Cynulliad yn erbyn hepgor y rheolau sefydlog, ac o ganlyniad doedd dim modd pleidleisio ar gyfundrefn newydd lwfansau treth cyngor.

Oherwydd mai cynnig brys oedd hwn roedd angen mwyafrif o ddwy ran o dair ar y Llywodraeth a chyda aelodau'r cynulliad yn derbyn y 300 tudalen o reoliadau munudau'n unig cyn y bleidlais cael a chael oedd hi'n debyg o fod.

Dywedodd Golygydd Materion Cymreig 麻豆官网首页入口 Cymru, Vaughan Roderick: "Roedd disgwyl i'r cynulliad gymeradwyo rheoliadau cymhleth, uniaith Saesneg, heb gael cyfle i'w darllen yn sarhad.

"Er i ambell aelod o Blaid Cymru gefnogi'r llywodraeth doedd hynny ddim yn ddigon ac mae'n debyg y bydd aelodau'n gorfod dychwelyd o'u gwyliau i'w trafod eto".

Yn erbyn

Dywedodd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol fod Llafur yng Nghaerdydd wedi oedi er mwyn cael dadl gyda'r llywodraeth glymblaid yn San Steffan.

Roedd y tair gwrthblaid yn dadlau nad oedden nhw wedi cael digon o amser i graffu ar y rheolau.

Byddai'r rheolau newydd wedi caniat谩u i'r 22 o gynghorau lleol osod lwfans fyddai'n helpu teuluoedd ar incwm isel i dalu treth y cyngor.

Mae angen rheolau newydd oherwydd bod y Trysorlys wedi penderfynu newid y drefn bresennol.

Ar hyn o bryd y nhw sydd yn talu'r lwfansau ond o Ebrill 2013 ymlaen bydd y cyfrifoldeb yn cael ei ddatganoli i gynghorau lleol.

Ond cyn i hynny ddigwydd yng Nghymru rhaid i'r Cynulliad newid rheolau fyddai'n caniat谩u i'r cynghorau lleol weithredu yn y fath fodd.

10% yn brin

Bydd y Trysorlys yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am lwfansau i gynghorau ond nid yr holl arian.

Mae rhai wedi darogan y bydd yr arian fydd yn cael ei drosglwyddo 10% yn brin o'r hyn sydd ei angen.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw arian ar gael i lenwi'r bwlch ac y byddai rhaid i'r baich ddisgyn ar drethdalwyr lleol.

Yn 么l Bae Caerdydd, roedd yn amhosib dyfalu'r swm fyddai'n cael ei drosglwyddo er iddyn nhw ofyn i'r Trysorlys am fanylion.