Adroddiad yn beirniadu ysbyty

Disgrifiad o'r fideo, Adroddiad Dafydd Gwynn

Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi beirniadu Ysbyty Glan Clwyd oherwydd oedi ambiwlansys a'r modd y mae'n delio gyda chwynion.

Dywedodd yr adroddiad fod hyd at bum ambiwlans yn ciwio y tu allan i'r Adran Ddamweiniau'n "ddigwyddiad cyson" yn yr ysbyty ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.

Roedd yr arolygwyr hefyd yn poeni am ymateb gwael yr ysbyty i gwynion cleifion.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud eu bod yn derbyn canlyniadau'r adroddiad.

Mae adroddiad yr arolygiaeth yn cynnwys 20 o argymhellion wedi iddyn nhw fynd i'r ysbyty ym mis Chwefrori, gan gynnwys archwilio 7 o'r 25 ward yno ynghyd 芒'r Uned Ddamweiniau ac Uned Asesu Brys.

Pryderon

Ymhlith y pryderon a fynegwyd yn yr adroddiad roedd:

  • Hyd at bum ambiwlans yn ciwio y tu allan i'r Uned Ddamweiniau oherwydd oedi wrth dderbyn cleifion;
  • Prinder cyson o staff wedi'u hyfforddai ar rai wardiau;
  • Prinder ymgynghorwyr yn yr Uned Ddamweiniau, a phrinder gwelyau gan arwain at oedi wrth dderbyn cleifion i'r ysbyty;
  • Methiannau wrth ddelio gyda chwynion.

Dywedodd yr adroddiad: "Fe glywsom gan nifer o gleifion am oedi hir o fewn adrannau ac mewn ambiwlansys yn ciwio y tu allan i'r drws.

"Bu cleifion yn disgwyl mewn ambiwlans am gyfnodau sylweddol cyn cael asesiad yn yr Uned Ddamweiniau ac mae hynny'n annerbyniol."

Roedd y gofal staff yn dda yn gyffredinol, meddai ond doedd yr ysbryd "ddim yn dda mewn rhai mannau" ac roedd lefel uchel salwch ymysg staff.

'Dan bwysau'

Ychwanegodd yr adroddiad: "Roedd hi'n glir wrth drafod gyda staff eu bod yn teimlo dan bwysau ac yn gweithio hyd at 100% o'u gallu o safbwynt gwelyau."

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Dywed y bwrdd eu bod yn gweithio i ddatrys y materion yn yr adroddiad

Ar 么l trafod gyda'r bwrdd iechyd, dywedodd yr arolygwyr mai dim ond 28% o gwynion cleifion gafodd ymateb o fewn y 30 diwrnod angenrheidiol.

Roedd unigolyn wedi dweud ei fod yn anfodlon ar y gofal gafodd ei dad fu farw'n ddiweddarach - cwyn a gafodd ei chadarnhau gan yr Ombwdsmon, Peter Tyndall.

Fe gafodd siec ei gyrru at y person ond dywedodd yr adroddiad "nad oedd llythyr nac ymddiheuriad wedi cael ei anfon gyda'r siec".

Mewn achos arall roedd ymateb i g诺yn ar ffurf llythyr - yn dilyn oedi hir - oedd wedi sillafu enw'r person fu farw'n anghywir.

Roedd yr arolygwyr yn fodlon ag ymateb y bwrdd iechyd yn dilyn adroddiad Mr Tyndall ond roedd "mwy o waith i'w wneud i sicrhau'r safonau uchaf o ofal i gleifion yn Ysbyty Glan Clwyd".

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: " .... rydym yn parhau i weithio i ddatrys y materion a godwyd."

Ychwanegodd y byddai'n cyhoeddi adroddiad am unrhyw welliannau o fewn chwe mis.