Cyhoeddi bandiau ysgolion uwchradd am yr ail flwyddyn yn olynnol

Disgrifiad o'r llun, Ysgol Tryfan ym Mangor oedd ar frig y tabl diwethaf
  • Awdur, Gwenfair Griffith
  • Swydd, Gohebydd Addysg 麻豆官网首页入口 Cymru

Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd ysgolion uwchradd Cymru'n clywed ym mha fand perfformiad mae Llywodraeth Cymru wedi'u hasesu.

Mae'r ysgolion yn cael eu mesur yn 么l cyfres o ffactorau dros y tair blynedd ddiwethaf, yn cynnwys canlyniadau TGAU, presenoldeb disgyblion, a nifer y disgyblion sy'n derbyn cinio am ddim.

Yn 么l y llywodraeth, bwriad y broses yw helpu awdurdodau lleol Cymru a'r consortia newydd i gynnal eu hysgolion yn fwy effeithiol, a gwella safonau a pherfformiad ysgolion ar draws y wlad.

Maen nhw'n dweud nad y bwriad yw rhoi label na difenwi unrhyw ysgolion, na chreu cynghrair o ysgolion, ond rhoi ysgolion mewn grwpiau er mwyn gweld pa rai sydd angen cymorth a pha rai sy'n esiampl dda i eraill.

Ond, pan gafodd y ffigurau bandio cynta'u cyhoeddi ym mis Ionawr, doedd dim croeso gan undebau athrawon na phenaethiaid, a chymysg oedd ymateb rhieni.

Fawr o wahaniaeth

Daeth i'r amlwg yr adeg yma'r llynedd bod rhai ysgolion mewn band isel, er eu bod nhw wedi perfformio'n dda o ran canlyniadau TGAU a'u hadroddiadau Estyn.

Cafodd Ysgol Gyfun Ystalyfera yng Nghwm Tawe ei gosod ym mand un yn 2011, ond yn 么l y pennaeth, Mathew Evans, dyw'r bandio ddim wedi gwneud llawer o wahaniaeth i'r ysgol nac i'r rhieni,

"Maen nhw'n son amdan natur ysgol, ethos ysgol, ysbryd ysgol.

"I riant, yn y pendraw, ydi fy mhlentyn i yn hapus i fynd i'r ysgol (sy'n bwysig)? Ac ydyn nhw yn cyflawni o fewn eu galluoedd a'u talentau? Ac ydyn nhw'n cael eu hysbrydoli o fewn yr ysgol?

"Nawr dyw'r pethau yna ddim yn cael eu mesur o fewn bandio ysgolion, ac felly mae'r bandio yn ddefnyddiol, mae'n un mesur, ac mae'n ffocws clir iawn ar un agwedd o berfformiad ysgolion.

"Ond ydi o'n dweud y cyfan? Wrth gwrs nac ydi!"

Mae'r llywodraeth yn defnyddio fformiwla gymhleth gan ystyried 12 mesur i gynhyrchu sg么r ar gyfer pob un o ysgolion uwchradd Cymru - 219 i gyd. Bydd yr ysgolion gorau ym mand 1, tra bod yr ysgolion sydd ddim yn gwneud cystal ym mand 5.

Cefnogaeth amrywiol

Cafodd pob ysgol ym mand 4 a 5 拢10,000 y llynedd tuag wella safonau. Ond yn 么l Cyfarwyddydd undeb penaethiaid NAHT Cymru, Anna Brychan, dyw deng mil o bunnau ddim yn swm aruthrol fawr yng nghyd-destun cyllideb ysgolion.

"Mae 'na wahaniaeth barn wedi bod yngl欧n 芒 safon y gefnogaeth mae ysgolion wedi cael wrth awdurdodau lleol er enghraifft.

"Mi fydden i yn dweud bod ysgolion uwchradd yn benodol yn teimlo nad yw'r gefnogaeth wedi bod yno bob amser."

Beth fydd yn ddiddorol heddiw fydd gweld faint o ysgolion ym mand 4 a 5 sydd wedi codi i fandiau uwch, yn enwedig ar 么l cael cymorth ychwanegol gan y llywodraeth.

Ond, pe bai ysgol eich plentyn chi yn disgyn i fand is eleni, neges y llywodraeth yw na ddylai rhieni boeni'n ormodol am hynny.

Maen nhw'n dweud mai system i adlewyrchu os yw ysgolion yn cyflwyno gwelliannau cymharol 芒'i gilydd yw hon - ac nid dangos os yw ysgol wedi gwella neu waethygu flwyddyn ar 么l blwyddyn.

Felly, mewn theori, gallai ysgol fod mewn band is er bod eu canlyniadau'r un fath; gall band ysgol newid gan fod ysgolion eraill wedi profi gwelliant a graddfa uwch.

Manylion dealladwy

Dyw'r llywodraeth ddim wedi penderfynu eto a fyddan nhw'n rhoi cyllideb ychwanegol i'r ysgolion yn y bandiau is eto eleni.

Ond eu cyngor nhw i rieni sydd 芒 phlant yn yr ysgolion hynny yw i holi cwestiynau i weld pa fesurau maen nhw'n bwriadu eu gweithredu i sicrhau gwelliant.

Serch hynny, yn 么l Anna Brychan o'r NAHT, dyw'r system yma ddim yn llwyddo cyflawni ei nod o wella safonau.

"Mae eisiau system clyfrach na hwn, fydd yn rhoi manylion mwy dealladwy i rieni ac eraill, ac yn ein galluogi ni hefyd os oes 'na broblemau yn y system i roi'r gefnogaeth yn y mannau iawn.

"Dyw'r dull yma ddim yn help mawr yn hynny o beth."

Bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi am 12pm ddydd Mawrth ac yn y cyfamser, mae cynlluniau o hyd i gyflwyno system fandio i ysgolion cynradd erbyn 2014.