麻豆官网首页入口

Beirniadu system fandio ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd gwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae canlyniadau TGAU, presenoldeb disgyblion a'r nifer sy'n derbyn cinio am ddim yn cael eu hystyried

Mae system fandio ysgolion Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu wedi iddi ddod i'r amlwg bod yr ysgol uwchradd oedd ar frig y system llynedd wedi disgyn i'r band isaf ond un.

Yn 么l y llywodraeth, nid pwrpas y system yw dangos a yw ysgol wedi gwella neu waethygu.

Yn hytrach maen nhw'n dweud mai'r nod yw cymharu perfformiad ysgolion ledled Cymru 芒'i gilydd.

Mae undebau athrawon a'r gwrthbleidiau wedi disgrifio'r system fel un fympwyol ar 么l i 10 o ysgolion syrthio o'r band uchaf eleni

Cafodd y bandiau perfformiad eu cyhoeddi ddydd Mawrth am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae'r system yn rhannu ysgolion yn bum band ar sail eu perfformiad - o Fand 1, ysgolion sy'n perfformio'n dda, i ysgolion Band 5, sydd angen gwelliannau.

Fe wnaeth Ysgol Tryfan, Bangor, ostwng o Fand 1 i Fand 4.

Mae pennaeth yr ysgol, Gwyn Tudur, wedi codi cwestiynau yngl欧n 芒 system sy'n caniat谩u newidiadau mor sylweddol o un flwyddyn i'r llall.

Mae nifer o ysgolion eraill hefyd wedi gostwng o Fand 1 - gan ddenu beirniadaeth am y system oddi wrth undebau a'r gwrthbleidiau.

Roedd yr ysgolion yn cael eu mesur yn 么l cyfres o ffactorau dros y tair blynedd ddiwethaf, yn cynnwys canlyniadau TGAU, presenoldeb disgyblion, a nifer y disgyblion sy'n derbyn cinio am ddim.

Cafodd cyfanswm o 219 o ysgolion uwchradd eu bandio.

Mae'r data a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn datgelu bod 72 o ysgolion wedi symud i fyny o leia' un band, tra bod 71 o ysgolion wedi symud i lawr o leia' un band.

Arhosodd 75 o ysgolion yn yr un band.

Roedd yna un ysgol na chafodd ei gosod mewn band y llynedd am ei bod yn newydd.

'Herio ysgolion'

Disgrifiad,

Adroddiad Gwenfair Griffith

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau: "Mae'r data trwyadl a ryddhawyd yn rhoi darlun clir i ni ac i rieni am sut mae ein hysgolion yn perfformio ac mae'n rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni i herio ysgolion nad ydynt yn cyrraedd y safonau ar gyfer ein pobl ifanc yng Nghymru.

"Mae'n galondid gweld bod yr ysgolion oedd ym Mandiau 4 a 5 y llynedd yn gwneud cynnydd gwirioneddol o ran gwella canran y disgyblion sy'n cyflawni Lefel 2 (graddau A*-C TGAU), gan gynnwys Cymraeg iaith gyntaf / Saesneg a mathemateg.

"Ym Mand 4 rydyn ni wedi gweld y ganran yn codi o 41.7% i 46.5%, ac ym Mand 5 rydyn ni wedi gweld y ganran yn codi o 36% i 41.8%."

Ond mae'r drefn wedi ei feirniadu gan y Ceidwadwyr.

Dywedodd Angela Burns AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg: "Mae blwyddyn ers i'r drefn ddod i rym, ac eto mae'n parhau yn niwlog a dryslyd a heb fod o gymorth.

"Mae Ceidwadwyr Cymru yn credu y dylai rhieni fod a mwy o hawl i gael gwybodaeth am berfformiad ysgolion.

"Ond dyw hyn ddim yn bosib drwy ddefnyddio 12 o fesurau cyfartaledd, gan gynnwys ystadegau am ginio ysgol rhad."

Galwodd am system "sy'n adlewyrchu yn fwy cywir safonau academaidd ein hysgolion, ond sydd ddim o reidrwydd yn digalonni athrawon."

Fe ddywedodd Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar addysg, bod y canlyniadau yn dangos bod angen dileu'r system.

"Dydi'r system yma ddim yn gredadwy...

"Oherwydd hynny dwi'n galw ar y Gweinidog i ddileu'r cynlluniau sydd ganddo ar gyfer bandio ysgolion cynradd.

"Mae pawb yn gwybod bod angen i safonau wella ond drwy gydweithio ac nid cystadleuaeth rhwng ysgolion."

Dywedodd Aled Roberts, llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol bod y system yn llawer rhy syml a bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod 'na well dealltwriaeth o be mae hyn wir yn ei olygu.

"Dwi'n bryderus am y gefnogaeth sy'n cael ei roi i'r ysgolion ym mand 4 a 5.

"Mae angen defnyddio'r wybodaeth yma i wella'n hysgolion.

"Fe fyddai'n llawer gwell asesu perfformiad pob disgybl yn unigol er mwyn gallu gweld pwy sydd ddim yn cyrraedd eu potensial."

'Data cymhleth'

Mae undebau'r athrawon yn parhau yn llugoer neu'n negyddol i'r gyfundrefn newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran undeb UCAC fod angen i Lywodraeth Cymru "ail-edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, ac i beidio symud ymlaen 芒'i chynlluniau ar gyfer bandio cynradd."

"Maen nhw hefyd yn dweud fod rhai o'r newidiadau yn ymddangos yn "fympwyol."

"Rydym ni wedi dadlau ers y cychwyn nad yw'n synhwyrol i geisio distyllu data cymhleth i un ffigwr moel.

"Mae'r system bandio'n troi data call a synhwyrol mewn i ddata mympwyol a chamarweiniol."

Yn 么l y llywodraeth, mae 61 o'r 79 ysgol oedd ym mandiau 4 a 5 y tro diwetha' wedi gweld cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n cyflawni Lefel 2 mewn Cymraeg iaith gyntaf, Saesneg a mathemateg.

"Dwi wedi gwneud ymrwymiad clir i godi safonau a lefel perfformiad mewn ysgolion yng Nghymru, gwella lefelau llythrennedd a rhifedd, a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol," meddai Mr Andrews.

Ychwanegodd fod bandio yn hollbwysig er mwyn ceisio gwella ysgolion yng Nghymru a bod y llywodraeth wedi ymrwymo i ryddhau'r data perfformiad pob blwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol