Ffliw: Cyfyngu ar ymweliadau yn Ysbyty Llwynhelyg

Disgrifiad o'r llun, Y nod, medd y bwrdd iechyd, yw amddiffyn cleifion a staff

Oherwydd achosion ffliw tymhorol mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyfyngu ar ymweliadau i Ysbyty Llwynhelyg.

Y nod, meddai, yw amddiffyn cleifion a staff a rhwystro'r haint rhag lledu.

O ddydd Llun, Ionawr 7, ni fydd ymweliadau yn cael eu caniat谩u ar Ward 11 heblaw am ymwelwyr hanfodol.

Mae holl ymweliadau eraill 芒'r ysbyty yn Hwlffordd yn cael eu cyfyngu i ddau ymwelydd i bob gwely ac ni fydd unrhyw ymweliadau'n cael eu caniat谩u yn y prynhawn o ddydd Mawrth, Ionawr 8, ymlaen.

Ni ddylai neb fynd i'r ysbyty os yw'n dioddef o'r ffliw neu o unrhyw symptomau neu haint.

"Rydym yn ddiolchgar yn ddiolchgar iawn i'r gymuned am ei dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn," meddai'r bwrdd iechyd.

15 miliwn

Mae annwyd a'r ffliw yn effeithio ar 15 miliwn yn y Deyrnas Gyfun blwyddyn ond, yn wahanol i annwyd, gall symptomau'r ffliw ymddangos yn gyflym iawn a chynnwys twymyn a chymalau a chyhyrau poenus.

Gall y ffliw fod yn gyflwr peryglus i rai pobl.

Mae'n bwysig cael pigiad y ffliw os yw rhywun dros 65 oed, yn feichiog neu os oes cyflwr iechyd hirdymor arno - yn enwedig clefyd y galon neu glefyd anadlol cronig - neu system imiwnedd sydd wedi'i wanhau.

Salwch heintus yw'r ffliw sy'n gallu lladd, a dylai'r rhai sy'n wynebu risg gael brechiad i sicrhau eu bod yn diogelu eu hunain a'u teuluoedd.

I gael brechiad, mae angen cysylltu 芒 meddyg teulu neu fynd wefan Galw Iechyd Cymru i gael hyd i fferyllfa leol a all roi'r brechiad.

Digon o hylif

Os yw rhywun yn poeni am symptomau ffliw, yn y lle cyntaf dylai ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ffonio meddyg teulu fydd yn asesu symptomau ac yn rhoi cyngor addas.

Dylai pobl sy'n dioddef o'r ffliw orffwys yn y gwely ac yfed digon o hylif nad yw'n cynnwys alcohol, a gall paracetamol helpu.

I atal y ffliw, dylid gorchuddio trwyn a cheg wrth besychu neu disian, defnyddio hances bapur pan fo'n bosibl, cael gwared ar hancesi papur brwnt yn brydlon a gofalus, golchi dwylo'n aml gyda sebon a d诺r i rwystro'r feirws rhag lledu a glanhau arwynebau caled (e.e. dolenni drysau) yn rheolaidd gan ddefnyddio cynnyrch glanhau arferol.