Pryder am wasanaethau iechyd

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Yr ofnau yw y byddai gwasanaethau'n symud o Ysbyty Llandudno

Mae bwrdd iechyd wedi gwadu honiadau gwleidyddion fod penderfyniad wedi ei wneud i symud gwasanaethau llawdriniaeth y fron o Ysbyty Llandudno yn Sir Conwy.

Dywedodd Guto Bebb, AS Aberconwy, a'r AC lleol Janet Finch-Saunders, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud wrthyn nhw y bydd y gwasanaethau'n symud i Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd.

Yn 么l y ddau, byddai datblygiad o'r fath yn groes i nod y bwrdd, datblygu Ysbyty Llandudno fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer iechyd merched.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd nad oedd unrhyw benderfyniad terfynol.

Ychwanegodd eu bod yn ystyried materion staffio sy'n gysylltiedig 芒 gwasanaethau llawdriniaeth y fron yn Llandudno.