M芒n driniaethau yn cael eu canslo mewn pedwar ysbyty

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Daeth y newidiadau i rym yn y pedair ysbyty ddydd Mawrth

Mae m芒n driniaethau wedi eu canslo yn rhai o ysbytai'r canolbarth a'r gorllewin oherwydd cynnydd yn nifer y cleifion sydd angen gofal brys.

Mae pedair o ysbytai Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi eu heffeithio, sef Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Y Tywysog Philip yn Llanelli a Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Daeth y newidiadau i rym ddydd Mawrth.

Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu taw cleifion brys yw eu blaenoriaeth gan ychwanegu nad oes effaith ar driniaethau i gleifion canser.

'Adolygu'r sefyllfa'

Dywed y bwrdd iechyd fod staff yn cael eu trosglwyddo o adrannau nad ydynt yn delio ag achosion brys.

Dywedodd Dr Sue Fish, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd iechyd Hywel Dda: "Rydym yn parhau i wneud pob ymdrech i leihau'r oedi o ran llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu.

"Rydym yn darparu gwelyau ychwanegol ar wardiau ac mewn cyfleusterau gofal difrifol ac rydym yn trosglwyddo staff i ddelio 芒'r cynnydd yn y gweithgaredd.

"Rydym yn parhau i adolygu'r sefyllfa yn ddyddiol."

Yn 么l Jeremy Williams, Cadeirydd Rhaglen Gofal heb ei Gynllunio Hywel Dda dylai pobl ymweld ag adrannau brys y pedwar ysbyty os ydyn nhw wir angen gofal brys nad yw'n gallu cael ei ddarparu rhywle arall.