麻豆官网首页入口

Pryder am 350 o swyddi mewn lladd-dy

  • Cyhoeddwyd
Cigydd wrth ei waith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y safle yn y Gaerwen ydy'r unig ladd-dy sy'n dal i weithredu yng ngogledd Cymru

Mae 'na bryderon y gallai lladd-dy ar Ynys M么n, yr un mwya' yn y gogledd, orfod cau a cholli 350 o swyddi.

Cyhoeddodd cwmni bwyd Vion fod prif gwsmer y safle, Asda, wedi dod o hyd i gyflenwr arall.

Mae 350 yn cael eu cyflogi yn ffatri Welsh Country Foods yn y Gaerwen ar hyn o bryd, ac mae Asda yn cynrychioli tua 50% o fusnes y safle.

Dywedodd Jose Peralta o gwmni Vion: "Dyma ddiwrnod hynod anodd i bawb yn Welsh Country Foods yn dilyn penderfyniad prif gwsmer i beidio 芒 defnyddio Welsh Country Foods fel cyflenwr.

"Rydym yn sylweddoli beth y gallai effaith y penderfyniad hwn fod ar yr economi leol a'r gymuned ar Ynys M么n ac rydym wrthi'n trafod gyda'r cwmni dan sylw i weld a oes modd newid eu penderfyniad.

"Trwy gydol y broses ymgynghori, byddwn yn ymchwilio i bob cyfle i leihau nifer y colledion swyddi posib.

"Bydd hyn yn cynnwys denu cwsmeriaid newydd i'r safle neu werthu'r busnes i rywun arall.

"Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r ffermwyr sy'n ein cyflenwi i geisio lleihau'r effaith ar eu gwaith nhw."

'Adolygiad strategol'

Prynodd Vion y safle yn y Gaerwen oddi wrth gwmni Grampian Country Food Group yn 2008.

Maent yn delio 芒 640,000 o 诺yn bob blwyddyn.

Cadarnhaodd Asda eu bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i roi busnes i'r ffatri yn y Gaerwen wedi "adolygiad strategol".

"Doedd o ddim yn benderfyniad hawdd ond rydym yn teimlo ei bod yn amser adolygu ein ffynonellau cig oen i gwrdd 芒'r newid yng ngofynion ein cwsmeriaid," meddai datganiad y cwmni.

"Rydym wedi adeiladu perthynas gref gyda ffermwyr cig oen o Gymru ac yn dal wedi ymrwymo i gael cig oen o Gymru."

Dywedodd Dai Davies, cadeirydd Hybu Cig Cymru: "Mae Welsh Country Foods yn rhan hollbwysig o'r diwydiant cig coch yng Nghymru.

"Dyma'r lladd-dy mwya' sy'n dal i weithredu yng ngogledd Cymru, ac mae felly yn chwarae rhan hanfodol i wasanaethu ffermwyr yn yr ardal.

"Petai Welsh Country Foods yn cau wedi'r cyfnod ymgynghori, byddai'n ergyd drom i'r holl ddiwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru."

Mae undeb Unite hefyd wedi addo gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio achub y swyddi.

'Dechrau trist i 2013'

Dywedodd Andy Richards, ysgrifennydd yr undeb yng Nghymru: "Mae'r newyddion y gallai Vion gau eu safle Welsh Country Foods ar Ynys M么n yn ergyd i'r rhai sy'n gweithio yno, i'r gymuned leol ac economi'r ynys.

"Dyma ddechrau trist i'n haelodau yn 2013 a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a bod yna ddyfodol i weithwyr Cymreig yn Welsh Country Foods.

"Rydym angen buddsoddi nid torri ar swyddi yng Nghymru a byddaf yn codi'r mater yma ar frys gyda Llywodraeth Cymru."

Mae'r undeb yn annog Asda i ailystyried a chydweithio gyda Vion er mwyn sicrhau dyfodol i'r safle yng Ngaerwen.

'Gwerthu'r busnes?'

Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys M么n, Ieuan Wyn Jones, y byddai'n trafod y mater gyda'r Gweinidog Amaeth Alun Davies AC yn y Cynulliad yr wythnos nesa'.

"Mae'n rhaid i ni wneud popeth posib i gadw'r swyddi hyn," meddai Mr Jones. "Ein blaenoriaeth gynta' yw ceisio gwerthu'r busnes fel ag y mae.

"Fe fyddaf hefyd yn cwrdd ag undebau ffermwyr ar yr ynys i drafod yr effaith ar y diwydiant amaeth.

"Gallai colli'r lladd-dy yma fod yn drychinebus i ffermwyr lleol yng ngogledd orllewin Cymru gan nad oes safleoedd tebyg gerllaw. Gallai hyn gael effaith ar brisiau, gan fod llai o gystadleuaeth."

Yn 么l Vion, cwmni o'r Iseldiroedd sy'n cyflogi 8,000 o staff yn y DU, fe fyddan nhw'n cychwyn ar gyfnod ymgynghori 90-diwrnod gydag undebau a'r gweithlu yn Sir F么n.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol