Corff iechyd: Galw am 'arweiniad cadarn'

Disgrifiad o'r llun, Y Gweinidog Iechyd: 'Angen i'r Gwasanaeth Iechyd addasu'

Mae'r cyrff sy'n cynrychioli cleifion wedi dweud y bydd angen "arweiniad gwleidyddol cadarn" cyn gwneud newidiadau i wasanaethau iechyd.

Yn 么l y cynghorau iechyd cymuned, bydd ad-drefnu'n golygu penderfyniadau "anodd a chryn dipyn o gyfaddawdu".

Mae disgwyl i ddau fwrdd iechyd gadarnhau eu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau yr wythnos nesaf, Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn y gorllewin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

Bydd y byrddau eraill yn dilyn yr un drefn yn ystod y misoedd nesaf wrth i'r Gwasanaeth Iechyd gyhoeddi newidiadau i ble a sut y bydd cleifion yn cael triniaeth.

Y gair olaf

Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, yn dadlau bod angen diwygio er mwyn gosod y GIG ar seiliau cynaliadwy ond dywedodd na fyddai ysbytai yn cael eu hisraddio.

Hi fydd 芒'r gair olaf os bydd y cynghorau iechyd cymuned yn gwrthod cymeradwyo cynlluniau'r byrddau.

Mae'n debyg y bydd canoli gwasanaethau yn bwnc llosg ac mae ymdrechion i ad-drefnu yn y gorffennol wedi arwain at brotestiadau.

Dywedodd Paul Worthington o fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru wrth raglen Sunday Politics 麻豆官网首页入口 Cymru y byddai rhaid i wleidyddion edrych ar y darlun ehangach.

'Cyfaddawd'

"Mae'n benderfyniad anodd i wleidyddion - rydym yn cydnabod hynny. Rhaid iddyn nhw ystyried barn eu hetholwyr ...

"Un o gryfderau'r cynlluniau, yn enwedig yn ne Cymru, yw ein bod yn edrych ar bethau o safbwynt rhanbarthol.

"Weithiau mae hynny'n golygu cyfaddawdu neu benderfyniadau anodd yn lleol.

"Rydym yn credu felly fod angen galw am arweiniad gwleidyddol cadarn ac ymddygiad tebyg gan ein gwleidyddion."

Canmolodd arweiniad clinigol y cynlluniau ad-drefnu a dweud bod y byrddau iechyd wedi gwrando ar y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Cyfeirio

Mae gan bob bwrdd iechyd eu cyngor iechyd cymuned heblaw Powys lle mae dau.

Fe fydd y cynghorau yn trafod argymhellion diwygio'r byrddau iechyd ond os nad ydyn nhw'n cytuno mae gan y cynghorau'r grym i gyfeirio'r cynlluniau at y Gweinidog Iechyd.

Dywedodd Mr Worthington y bydden nhw'n gwneud hynny os ydyn nhw'n credu nad yw'r cleifion yn cael gwasanaeth digonol.

"Ein nod yw gweithio gyda'r byrddau iechyd i sicrhau ein bod yn gallu datrys problemau yn lleol ac ar lefel ranbarthol," meddai.

"Byddai'n well gennym beidio 芒 chyfeirio materion at y gweinidog ond os bydd rhaid, yna fe wnawn ni hynny."

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu Mrs Griffiths oherwydd ei hagwedd at y cynghorau iechyd cymuned.

Mewn araith y llynedd fe ddywedodd wrth aelodau'r cynghorau i beidio 芒 bod yn blwyfol na gwrthwynebu cynlluniau'r byrddau iechyd yn gyhoeddus.