麻豆官网首页入口

拢10,000 i ysgolion yn y bandiau isaf

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd 84 ysgol yn derbyn 拢10,000 yr un mewn cyllid ychwanegol

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i bob ysgol yn y ddau fand perfformiad isaf.

Cyhoeddodd Leighton Andrews y bydd ysgolion uwchradd yng Nghymru sydd ym Mandiau 4 a 5 yn cael swm o 拢10,000 i'w helpu i wella safonau a pherfformiad.

Mae'r system fandio yn gosod ysgolion mewn pum band ar sail ffactorau fel canlyniadau TGAU a phresenoldeb - o Fand 1, sef ysgolion sy'n gwneud yn dda, i Fand 5, sef ysgolion sydd 芒 lle i wella.

Bydd cyfanswm o 拢840,000 ar gael i 84 o ysgolion ym mandiau 4 a 5.

Ond mae'n rhaid i ysgolion gyflwyno cynlluniau gweithredu, gyda thargedau, cyn y byddant yn derbyn unrhyw arian ychwanegol.

Dyma'r ail flwyddyn i gyllid o'r fath fod ar gael.

'Ymrwymiad clir'

Roedd y bandio eleni yn dangos fod 10 ysgol wedi disgyn o Fand 1 i Fand 3 neu 4, tra bod eraill wedi codi yn y tabl.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu fod y system fandio yn fwy soffistigedig na thablau cynghrair ac nad dwyn gwarth ar ysgolion gwanach yw'r nod.

Ond mae undebau athrawon wedi cwestiynu gwerth y bandio fel modd o wella safonau.

Dywedodd Mr Andrews: "Dw i wedi gwneud ymrwymiad clir i godi safonau a pherfformiad mewn ysgolion yng Nghymru, gan wella lefelau llythrennedd a rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

"Mae'r data cadarn sydd ar gael drwy'r system fandio yn rhoi darlun clir i ni ac i rieni o sut mae'n hysgolion yn perfformio, gan roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni i herio'r ysgolion hynny sydd heb fod yn cyflawni ar gyfer ein pobl ifanc yma yng Nghymru.

"Rydyn ni wedi gweld ysgolion a oedd ym Mandiau 4 a 5 y llynedd yn gwneud cynnydd gwirioneddol. Bydd y cyllid hwn yn gryn gymorth i'r ysgolion sydd yn y bandiau hynny eleni ac yn eu helpu i sicrhau gwelliannau ar gyfer eu dysgwyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol