麻豆官网首页入口

Arian hyfforddi iechyd i barhau

  • Cyhoeddwyd
nurseFfynhonnell y llun, Science
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y GIG yng Nghymru sy'n amcangyfrif faint o staff fydd eu hangen o 2016 ymlaen

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi dros 拢82m i hyfforddi staff iechyd proffesiynol er mwyn cynnal gwasanaethau.

Cafodd y gyllideb ei seilio ar yr hyn y mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn amcangyfrifr fydd angen o 2016 ymlaen.

Mae'n cynnwys staff fel nyrsys, bidwragedd, parafeddygon, fferyllwyr a staff pelydr-X.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd byrddau iechyd canolbarth, gorllewin a gogledd Cymru gynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau yn eu hardaloedd.

Dywedodd y Gweinidog iechyd, Lesley Griffiths: "Mae hyfforddiant iechyd o safon uchel yn hanfodol i gefnogi darparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru nawr ac i'r dyfodol."

'Ymrwymiad'

Mae'r GIG yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn nifer ei staff dros y degawd diwethaf, ac mai llai o fyfyrwyr yn gadael eu cyrsiau nag mewn sawl man arall yn y DU.

"Mae'r nyrsys ychwanegol yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi plant ifanc mewn ardaloedd difreintiedig drwy gefnogi gwasanaeth iechyd sy'n ymweld 芒 phobl," ychwanegodd y gweinidog.

Mae'r GIG yn amcangyfrif faint o staff fydd eu hangen i gynnal gwasanaethau o 2016 ymlaen gan ddefnyddio nifer o ffactorau gan gynnwys oedran y staff presennol, faint o bobl sy'n gweithio neu'n hyfforddi ar hyn o bryd a faint sy'n gadael cyrsiau hyfforddi cyn y diwedd.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu cynlluniau ad-drefnu.

Yn y gogledd, bydd gwasanaethau yn cael eu canoli mewn deg o ysbytai, gan olygu cau ysbytai Blaenau Ffestiniog, Llangollen, Y Fflint a Phrestatyn.

Dywedodd y bwrdd hefyd y bydd gwasanaeth gofal dwys tymor hir i fabanod yn symud i ysbyty yn Lloegr, ond fe fydd gwasanaeth pelydr-X yn aros yng Nghaernarfon a Phwllheli.

Hyd yma mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cymeradwyo cau Ysbyty Cymunedol Mynydd Mawr yn y Tymbl a chau unedau man anafiadau yn ysbytai Dinbych-y-Pysgod a De Penfro.