Budd-dal treth y cyngor: O blaid 拢22m

Disgrifiad o'r llun, Roedd Carl Sargeant AC wedi dweud y byddai'r arian yn dod o gronfa wrth gefn a chyllidebau adrannol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'n unfrydol 拢22m i lenwi bwlch budd-daliadau treth y cyngor er iddyn nhw ddweud yn wreiddiol na fyddai'r arian ar gael.

Dywedodd y gwrthbleidiau eu bod yn croesawu'r "tro pedol" ond yn beirniadu sut yr oedd gweinidogion wedi delio 芒'r mater.

Heb yr arian ychwanegol fe fyddai'r rhai oedd yn derbyn y budd-dal ar gyfartaledd yn colli 拢67 yn y flwyddyn ariannol nesa'.

Yn y Senedd yng Nghaerdydd dywedodd yr AC Ceidwadol Janet Finch-Saunders y byddai'r "tro pedol" yn rhyddhad i 330,000 o deuluoedd yng Nghymru.

'Yn warthus'

"Ond mae'n warthus fod cymaint o amser cyn y penderfyniad hwn," meddai.

Dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas y byddai rhaid i'r llywodraeth "ddysgu gwersi pwysig yngl欧n 芒 sut i ddeddfu a sut i glustnodi arian."

Mae AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black wedi dweud bod "y sefyllfa anniben" yn golygu bod cynghorau 芒 naw ddiwrnod cyn y ddyddiad cau cyfreithiol.

Wfftiodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant honiadau fod "tro pedol" wedi bod.

'Safiad'

"Mae llywodraeth Carwyn Jones yn gwneud safiad ar ran pobl Cymru," meddai.

Roedd llywodraeth y DU wedi trosglwyddo cyfrifoldeb am fudd-dal treth cyngor i Fae Caerdydd ond wedi rhoi 90% o'r cyllid angenrheidiol.

Yr un oedd y sefyllfa ar draws Prydain ond bod Senedd yr Alban a nifer o gynghorau Lloegr eisoes wedi cyflwyno rhaglenni i dalu'r gwahaniaeth.

Roedd Mr Sargeant wedi dweud y byddai'r arian yn dod o gronfa wrth gefn y llywodraeth ynghyd 芒 chyllidebau adrannol.