麻豆官网首页入口

Codi arian i brynu clychau newydd

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Holl Saint, Gresffordd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae clychau'r eglwys yn un o saith Rhyfeddod Cymru

Mae Eglwys yr Holl Saint yng Ngresffordd ger Wrecsam yn codi arian er mwyn prynu clychau newydd, ysgafnach.

Mae clychau'r eglwys yn enwog am fod yn un o saith Ryfeddod Cymru yn 么l yr hen bennill.

Maent yn anarferol o fawr ac uchel mewn eglwys o faint yr Holl Saint.

Ond oherwydd eu maint mae'n anodd i blant eu canu.

Mae'r eglwys, felly, yn ceisio codi tua 拢33,000 er mwyn prynu clychau newydd, ysgafnach, a fyddai'n haws eu canu.

Prynwyd pedair cloch newydd yn 2006 ond, yn 么l capten t诺r yr eglwys, Hilton Roberts, mae'n anodd i bobl ifainc symud ymlaen i glychau mawr wedi ymarfer ar bedair yn unig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hilton Roberts wedi bod yn canu clychau'r eglwys ers yn 15 mlwydd oed

Bydd ychwanegu dwy arall yn ffurfio gr诺p o glychau ar wahan a allai gael eu canu'n hollol annibynol er mwyn paratoi'r canwyr clychau ifanc ar gyfer y clychau trwm.

"Dechreuais i ganu'r clychau pan oeddwn yn 15 neu 16 mlwydd oed," meddai Mr Roberts.

"Ond mae'n anodd denu pobl ifanc o'r oedran yna nawr.

"Pan maent yn yr ysgol gynradd mae mwy o gyfleoedd iddynt ddechrau diddordebau newydd."

Dywedodd Mr Roberts fod rhai plant wedi dechrau canu'r clychau yn 2006 pan gafodd yr eglwys rai newydd.

Ond gan mai dim ond pedair oedd yna roeddent yn dueddol o golli diddordeb.

Y gobaith yw y bydd chwe chloch yn cadw diddordeb pobl ifanc.

Bydd y clychau newydd yn cael eu gwneud yn Loughborough.

Wedi iddyn nhw gael eu gosod yn yr eglwys credir mai Holl Saint fydd yr unig eglwys gyda dwy set o glychau yn ei th诺r.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol