Ymgyrch i achub uned m芒n anafiadau yn Ninbych-y-Pysgod

Ffynhonnell y llun, Andrew Davies Cyngor Cymuned Dinbych y Pysgod

Disgrifiad o'r llun, Roedd degau yn gwrthwynebu cynlluniau i gau uned m芒n anafiadau yn Ninbych-y-Pysgod

Roedd degau o bobl yn gwrthdystio i wrthwynebu cau uned m芒n anafiadau yn Ninbych-y-Pysgod.

Daw'r brotest ddydd Sadwrn yn sgil penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gau'r uned yn gynharach ym mis Ionawr.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd y gallai mwyafrif o'r achosion fod yn cael eu trin gan feddygon cartref ac mai ar gyfartaledd 15 person y dydd sy'n mynychu'r uned yno.

Fe fydd staff yr uned yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Penderfyniad terfynol

Dywedodd y bwrdd hefyd y bydd cynllun peilot wyth wythnos yn Ninbych-y-Pysgod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, ar yr amser y mae mwy o ymwelwyr 芒'r ardal.

Disgrifiad o'r llun, Daw'r brotest yn sgil penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gau'r uned yn gynharach ym mis Ionawr

Nos Lun diwethaf penderfynodd Cyngor Tref Dinbych-y-Pysgod drefnu'r gwrthdystiad fel rhan o ymgyrch i achub yr uned rhag cau.

Bydd yr Aelod Cynulliad lleol, Angela Burns, yn cymryd rhan yn y gwrthdystiad yn 么l clerc y cyngor tref, Andrew Davies.

"Rydym am anfon neges at y bwrdd iechyd fel eu bod yn sylweddoli nad ydyn nhw wedi gwrando ar bobl leol yn ystod y cyfnod ymgynghori," meddai.

Ond mae gan y Cyngor Iechyd Cymdeithasol (CIC) lleol y grym i gyfeirio'r cynlluniau at Weinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths am benderfyniad terfynol petai nhw'n gwrthwynebu unrhyw ran o'r argymhellion.

Dywedodd Mansel Thomas, cadeirydd Rhwydwaith Iechyd Cymunedol De-Ddwyrain Penfro y byddai'r corff yn cefnogi'r CIC pe bai nhw'n cyfeirio'r cynlluniau at y Gweinidog.

"Yn wahanol i ni, mae'n amlwg nad yw'r bwrdd iechyd yn gwerthfawrogi unedau m芒n anafiadau.

"Dydyn ni ddim yn si诺r beth yw pwrpas y cynllun peilot nac ychwaith pwy fydd yn gyfrifol amdano.

"Mae 60,000 o bobl yn Ninbych-y-Pysgod yn ystod yr haf a dydyn ni ddim yn gwybod pa fath o wasanaeth fydd yn cael ei ddarparu.

"Fe fyddwn ni'n gwneud mwy o ymchwiliad yngl欧n ag effaith cau'r uned ar y gwasanaeth iechyd lleol.

"Hefyd fe fydd cynghorau cymunedol yn codi deisebau yn gwrthwynebu'r cau."

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn bwriadu cau uned m芒n anafiadau yn Noc Penfro.

'Goresgyn y sialensau'

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweithredu, Mark Brandraeth: "Ar gyfartaledd mae 11 o bobl yn mynychu'r Uned M芒n Anafiadau yn ddyddiol yn Ne Penfro a 15 o bobl yn mynychu Ysbyty Dinbych-y-Pysgod yn ddyddiol.

"Pan gaewyd yr Unedau M芒n Anafiadau dros dro ym mis Ionawr 2012 fe ddaeth yn glir bod pobl yn mynychu'r unedau gyda m芒n anafiadau neu salwch bach iawn a gellid delio gyda hyn drwy hunanofal neu ofal iechyd sylfaenol megis y meddyg teulu neu fferyllfa leol.

"Fe wnaeth y bwrdd iechyd wrando ar y bobl leol ac mae'n ceisio anelu at oresgyn y sialensau a amlygwyd yn yr ymgynghoriad, drwy gadw'r gwasanaethau yn lleol a lleihau teithio ychwanegol i gleifion.

"Rydym yn cydnabod bod y boblogaeth yn cynyddu yn ystod misoedd yr haf a'r pryderon a nodwyd gan breswylwyr ynghylch hyn, ac mae ein cynlluniau yn cynnwys darpariaeth ychwanegol er mwyn delio 芒'r cynnydd yn y galw."

Mae'r cynlluniau dadleuol i ad-drefnu gwasanaethau ar draws canolbarth a gorllewin Cymru hefyd yn golygu y bydd Ysbyty Cymunedol Mynydd Mawr yn Y Tymbl yn cau.

Bwriad arall yw canoli rhai gwasanaethau arbenigol - fel gofal i fabanod newydd-anedig gwael iawn - yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, gan gau'r uned arbenigol yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys newidiadau i adran ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, fyddai'n dod o dan ofal nyrsys.