麻豆官网首页入口

Yr economi yn crebachu unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
arian
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ffigwr yn cynyddu pryderon y bydd Prydain yn mynd i ddirwasgiad arall am y trydydd tro

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi ffigyrau sy'n dangos bod economi Prydain wedi crebachu o 0.3% yn ystod tri mis olaf 2012.

Mae hynny'n cymharu gyda chynnydd o 0.9% yn y chwarter blaenorol yn y mesur Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP).

Dyma'r mesur sy'n cael ei ddefnyddio fel ffon fesur ar gyfer iechyd yr economi yn y DU, ac mae'n cael ei ddefnyddio gan Fanc Lloegr a'i Bwyllgor Polisi Ariannol fel arwydd cyn gosod cyfraddau llog.

Mae'r ffigwr yn cynyddu pryderon y bydd Prydain yn mynd i ddirwasgiad arall am y trydydd tro.

Er mwyn i hynny ddigwydd, byddai'n rhaid i'r ffigwr GDP fod yn negyddol am chwarter blwyddyn arall, ond mae'r gobeithion am adfywiad dros dri mis cyntaf 2013 wedi cael ergyd oherwydd y tywydd drwg.

Ergyd

Mae'r cwymp yn y ffigwr yn waeth na'r hyn yr oedd nifer o arbenigwyr wedi rhagweld, gyda nifer wedi darogan cwymp o 0.1%.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod economi'r DU wedi bod yn fflat dros 2012 ar y cyfan.

Yn sicr mae'r ffigwr yn ergyd i'r gobeithion wedi i'r DU gael adferiad o'r dirwasgiad dwbl mwyaf ers y 1950au yn nhrydydd chwarter 2012.

Ond roedd yr adferiad yna yn bennaf oherwydd effaith digwyddiadau fel y Gemau Olympaidd.

Mae'r ffigyrau ar gyfer pedwerydd chwarter 2012 yn amcangyfrifon, ac fe fyddan nhw'n cael eu hadolygu cyn penderfynu ar y ffigwr derfynol.

'Sefyllfa anodd'

Mae'r ffigwr yn cynyddu'r pwysau ar y Canghellor, George Osborne, mewn cyfnod lle mae'r prif asiantaethau credyd yn ystyried israddio statws credyd y DU o'r AAA presennol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Y rhagolygon swyddogol oedd y byddai economi'r DU yn crebachu yn chwarter olaf 2012 felly nid yw'n ffigwr annisgwyl.

"Mae'n cadarnhau yr hyn yr ydym yn ei wybod yn barod, sef fod Prydain, fel nifer o wledydd eraill Ewrop, yn dal i wynebu sefyllfa economaidd anodd.

"Mae'n tanlinellu'r hyn ddywedodd y Canghellor yn ei ddatganiad yn yr hydref ac a gadarnhawyd gan lywodraethwr Banc Lloegr yr wythnos hon: mae'r economi yn gwella, ond mae'r ffordd o'n blaenau yn anodd."

'Ailystyried'

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones:

"Mae'r ffigyrau GDP yn siomedig iawn - ond ddim yn syndod.

"Rydym wedi rhybuddio llywodraeth y DU bod eu toriadau yn rhy llym ac yn rhy gyflym. Mae'r dirprwy brif weinidog bellach yn cytuno gyda ni.

"Mae'r toriadau i fuddsoddiad cyfalaf i gynlluniau isadeiledd mawr yn niweidio ein heconomi mewn cyfnod lle mae gwariant gan ddinasyddion a busnesau yn rhy wan i wneud yn iawn am y toriadau gwariant.

"Yn fwy na hynny, mae prif economegydd yr IMF (International Monetary Fund) wedi cynghori'r Canghellor i ailystyried ei gynlluniau.

"Dylai cynllun newydd ar gyfer twf a swyddi fod yn brif flaenoriaeth i'r prif weinidog a Changhellor y Trysorlys.

"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ac annog busnesau yng Nghymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol