Cynghorwyr yn trafod diffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Disgrifiad o'r llun, Mae'r bwrdd am symud y gwasanaeth arbenigol o ysbytai'r gogledd ddwyrain i Gilgwri

Fe fydd Cyngor Bwrdeistref Conwy yn trafod cynnig o ddiffyg hyder yn rheolwyr y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth tri chynghorydd yn ardal Bae Colwyn arwyddo'r cynnig a fydd yn cael ei drafod ddydd Llun.

Fe ddaw dros wythnos ar 么l i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi nifer o newidiadau dadleuol.

Cyhoeddodd y bwrdd eu bwriad i gau pedwar ysbyty cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog, Llangollen, Y Fflint a Phrestatyn.

Maen nhw hefyd am symud y gwasanaethau gofal dwys i fabanod o Ysbytai Glan Clwyd ac a Maelor Wrecsam i Ysybty Arrowe Park yng Nghilgwri.

Geiriad y cynnig gan Cheryl Carlisle (Ceidwadwyr), Brian Cossey (Democratiaid Rhyddfrydol) a Phil Edwards (Plaid Cymru) yw: "Mae'r cyngor wedi colli ffydd yng ngallu uwch reolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu gwasanaethau iechyd digonol ac effeithlon i bobl Conwy.

"Rydym yn galw ar Weinidog Llywodraeth Cymru i ymyrryd, gwrthod penderfyniadau'r bwrdd iechyd a rheoli'r Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd yn uniongyrchol."

Mae'r cynnig yn galw ar gynghorau eraill y gogledd i weithredu yn yr un modd ac yn galw ar y Cynghorau Iechyd Cymuned i gyfeirio penderfyniadau'r bwrdd iechyd i'r Gweinidog Iechyd.

Wrth gyhoeddi'r newidiadau ar Ionawr 18, dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Athro Merfyn Jones: "Y pwyslais ar gyfer y dyfodol ydi gwasanaethau lleol ac mae hynny yn dibynnu ar feddygon teulu, nyrsys a chanolfannau iechyd ac ati ond hefyd ar ofal cymdeithasol a gofal o wahanol fathau.

"Mae angen i ni sicrhau ein bod yn darparu yn lleol ac yn y cartref ar yr un pryd fel bod y gwir arbenigedd yn yr ysbytai pan fo angen."