Ambiwlansys yn methu targedau eto

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ystadegau'n dangos gostyngiad o 13% ym mherfformiad y gwasanaeth yn ystod 2012

Roedd amseroedd ymateb ambiwlansys yng Nghymru ar eu lefel isa' ym mis Rhagfyr nag ar unrhyw adeg arall yn ystod 2012.

Yn 么l ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Mercher, roedd 'na ostyngiad o 13% mewn perfformiad rhwng mis Ionawr (69.1%) a Rhagfyr (56.1%).

Mae hynny'n golygu fod Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi methu 芒 chwrdd 芒 thargedau'r llywodraeth o ran ymateb i alwadau brys am y seithfed mis yn olynol.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod nod, ymateb i 65% o'r galwadau pwysicaf o fewn wyth munud.

Ond yn 么l y ffigurau newydd, dim ond 56.1% o'r galwadau hynny y llwyddodd y gwasanaeth i ymateb iddyn nhw o fewn yr amser penodedig ym mis Rhagfyr.

Mae'n golygu nad yw'r gwasanaeth wedi cwrdd 芒'r targedau ers mis Mai'r llynedd.

Roedd 'na dros 38,100 o alwadau brys ym mis Rhagfyr, gyda bron i 15,600 o'r rheiny yn alwadau Categori A.

Gostyngiad

Yn 么l y ffigurau, roedd y gwasanaeth wedi ymateb i 64.8% o'r galwadau Categori A o fewn wyth munud.

Ond mae'r ffigurau wedi dangos bod 'na ostyngiad o 2.3% ym mherfformiad y gwasanaeth ers mis Tachwedd, er iddyn nhw ymateb i 12% yn rhagor o alwadau brys ym mis Rhagfyr o'i gymharu 芒'r mis blaenorol.

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cael cais am ymateb.

Er bod y targed ymateb cenedlaethol yn 65%, mae'r lefel yn is o ran siroedd unigol yng Nghymru - 60%.

Dim ond chwech o'r 22 sir a lwyddodd i gwrdd 芒'r targed o 60% ym mis Rhagfyr - sef Caerdydd, Abertawe, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Conwy a Wrecsam.

'Pwysau'

Fis Tachwedd cyhoeddodd Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, adolygiad o'r gwasanaeth ambiwlans trwy Gymru.

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: "Mae'r ffigurau hyn yn dangos fod amseroedd ymateb ambiwlansys ar eu lefel isa' ym mis Rhagfyr nag yn ystod unrhyw fis arall yn 2012.

"Tra bod parafeddygon a staff technegol yn ceisio cynnal safonau rhagorol, maen nhw'n wynebu pwysau aruthrol ac yn gorfod delio 芒 phrinder adnoddau."

Yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig, roedd nifer yr ambiwlansys oedd yn cael eu defnyddio yng Nghymru wedi gostwng o 256 i 244 yn ddiweddar.

Dywedodd Llefarydd y blaid ar Iechyd, Darren Millar AC: "Mae'n hynod bryderus fod perfformiad wedi gostwng yn sylweddol ar adeg pan mae nifer y gorsafoedd ambiwlans a cherbydau'n gostwng.

"Mae angen i'r adolygiad presennol o'r gwasanaeth gael ei gwblhau cyn gynted 芒 phosib fel bod gwelliannau'n cael eu cyflwyno'n syth."

Mewn ymateb i sylwadau'r Ceidwadwyr, dywedodd Ms Griffiths fod nifer yr ambiwlansys wedi gostwng yn sgil y ffaith fod 12 o gerbydau ymateb cyflym wedi cael eu comisiynu ar gyfer 2012/13.