麻豆官网首页入口

Cynllun tai Rhydaman: Ymgynghoriad newydd

  • Cyhoeddwyd
Gwaith Adeiladu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r datblygwyr am godi 289 o dai ar y safle.

Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir G芒r yn cynnal ymgynghoriad newydd ynghylch cais i godi cannoedd o dai ym mhentref Penybanc ger Rhydaman.

Penderfynodd y pwyllgor wrthod cynllun i godi 336 o dai ar dir Fferm Tirychen ym mis Rhagfyr yn rhannol oherwydd yr effaith ar yr iaith Gymraeg.

Mae'r datblygwyr, Swallow Properties o Berkshire, am godi 289 o dai ar y safle.

Cyfrifiad

Mae swyddogion cynllunio wedi cael rhybudd y byddai rhaid i'r awdurdod lleol dalu costau os na fyddan nhw'n cynnal ymgynghoriad newydd.

Y disgwyl yw y bydd y pwyllgor yn trafod y cais diwygiedig o fewn wythnosau.

Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2011, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn nodi gostyngiad yn nifer pobl y sir sy'n medru'r Gymraeg.

Roedd 'na ostyngiad o 6% yn y sir.

Ond mae 'na ostyngiad o dros 10% wedi bod yn Rhydaman dros y degawd diwethaf lle mae 49.9% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg tra oedd 61.46% yn 2001.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol