Iechyd: Cyfarfod yn trafod ad-drefnu

Disgrifiad o'r llun, Protestwyr y tu allan i gyfarfod o'r bwrdd iechyd pan gafodd y newidiadau eu cadarnhau ym mis Ionawr

Bydd cynghorwyr sir Conwy yn cwrdd 芒 swyddogion y bwrdd iechyd lleol ddydd Llun i drafod cynlluniau dadleuol i ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd.

Bydd y cyfarfod y tu 么l i ddrysau caeedig.

Daw'r cyfarfod ar 么l i gynghorwyr Conwy fygwth cynnal pleidlais o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Penderfynwyd gohirio'r bleidlais y mis diwethaf ar 么l cael addewid o gyfarfod gyda swyddogion iechyd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i 680,000 o drigolion Ynys M么n, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Dadleuol

Ymhlith rhai o'r cynlluniau dadleuol mae'r penderfyniad i gau ysbytai cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog, Y Fflint, Llangollen a Phrestatyn.

Bwriad arall yw trosglwyddo gofal dwys i fabanod o Ysbytai Glan Clwyd a Wrecsam Maelor i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri ar Lannau Mersi.

Mae nifer o wleidyddion, cyrff proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd wedi beirniadu'r newidiadau.

Dywed y Bwrdd nad yw peidio ad-drefnu yn opsiwn. Maen nhw'n yn mynnu fod yn rhaid iddyn nhw newid gwasanaethau er mwyn ymateb i heriau fel poblogaeth sy'n heneiddio a phrinder meddygon.

Y nod, medden nhw, yw sicrhau bod gwasanaethau yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Mae'r bwrdd, fel pob un arall yng Nghymru, yn wynebu gwasgfa ariannol sylweddol sy'n golygu dod o hyd i arbedion gwerth degau o filoedd o bunnau bob blwyddyn.

Eisoes mae prif weithredwyr cynghorau'r gogledd wedi bod yn cwrdd 芒 swyddogion Betsi Cadwaladr i drafod y sefyllfa.

Mae disgwyl iddyn nhw adrodd yn 么l i'w cynghorwyr sir yr wythnos hon.

Yn y cyfamser mae gr诺p trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad, gan gynnwys un aelod Llafur, wedi galw ar y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths i ymyrryd yn y mater.