'Angen llai o gynghorau'

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l yr Arglwydd Elis-Thomas mae angen lleihau nifer yr aelodau seneddol o Gymru i 30 a chynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i 80.

Mae'r Aelod Cynulliad Dafydd Elis-Thomas wedi galw am leihau nifer awdurdodau lleol Cymru o 22 i saith neu bump.

Dywedodd y dylid ail-strwythuro awdurdodau lleol yn yr un modd ag y gwnaed i fyrddau iechyd lleol Cymru.

Dywedodd wrth raglen The Wales Report 麻豆官网首页入口 Cymru: "Mae gennym saith bwrdd iechyd erbyn hyn, ac mae angen lleihau trefn llywodraeth mewnol Cymru.

"Mae'r penderfyniad wedi cael ei wneud gan y strwythur iechyd - dylai Cymru gael rhwng pump a saith sir."

Yn 么l yr Arglwydd Elis-Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd dros Blaid Cymru, mae hefyd angen diwygio ehangach, gan gynnwys lleihau nifer yr aelodau seneddol o Gymru i 30 a chynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i 80.

Gohirio newidiadau

Fis diwethaf pleidleisiodd aelodau seneddol o 300 i 231 i ohirio newidiadau i ffiniau seneddol tan ar 么l yr etholiad cyffredinol nesa'.

Dyna'r tro cynta' i weinidogion y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio yn erbyn ei gilydd ers ffurfio'r glymblaid.

Yn 么l gweinidogion, fe ddylai Cymru gael 30 yn hytrach na 40 Aelod Seneddol yn San Steffan fel rhan o gynllun i leihau maint T欧'r Cyffredin o 650 i 600 a sicrhau fod Aelodau Seneddol yn cynrychioli tua'r un faint o etholwyr.

Ond mae'r gwrthbleidiau yn dadlau fod y newidiadau'n annheg ac y byddai'r Ceidwadwyr yn elwa yn fwy nag unrhyw blaid arall.

'Afresymol'

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, wrth y rhaglen: "Mae'r syniad bod gan Gymru hawl dwyfol i gael 40 Aelod Seneddol yn afresymol.

"Does 'na ddim rheswm synhwyrol pam fod gan Gymru fwy o Aelodau Seneddol fesul pen nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig".

Galwodd yr Arglwydd Elis-Thomas ddydd Sul am gael diwygiadau cyn yr etholiadau nesaf i'r Cynulliad yn 2016.

"Mae'n rhaid i ni fedru dal Gweinidogion Cymru yn fwy atebol nag ar hyn o bryd a gwneud Cyfreithiau Cymreig gwell".

Y llynedd galwodd arweinwyr busnes am leihau nifer awdurdodau lleol Cymru o 22 i saith fel rhan o'u hargymhellion ar gyfer gwella economi'r wlad.

Dywed CBI Cymru y byddai cwtogi nifer yr awdurdodau yng Nghymru yn rhoi'r economi ar seiliau cadarnach.

Ond ymatebodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bryd hynny drwy rybuddio y byddai uno cynghorau yn costio'n ddrud a bod nifer o gynghorau eisoes yn cydweithio'n agos.