麻豆官网首页入口

Hysbyseb 'Byw yn Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
advert
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y lleoedd lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Cymru wedi disgyn

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gosod hysbysebion mewn papurau newydd yn galw am newid polisi yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Dywed y Gymdeithas eu bod am i bobl fedru "Byw yn y Gymraeg", ac maen nhw wedi hysbysebu yn y Western Mail, Daily Post ac ar wefan Golwg 360.

Dangosodd y Cyfrifiad bod nifer y lleoedd lle mae dros hanner y boblogaeth yn medru siarad Cymraeg wedi gostwng.

Bydd y Gymdeithas yn cyfarfod 芒'r Prif Weinidog Carwyn Jones i drafod y sefyllfa, ond maen nhw am i Lywodraeth Cymru weithredu polis茂au gan gynnwys sicrhau bod bob plentyn yn rhugl yn y Gymraeg.

Dywedodd cadeirydd ymudiad, Robin Farrar: "Ein gweledigaeth yw gwlad lle y gallwn fyw ein bywydau yn Gymraeg, a sicrhau cymunedau Cymraeg cryf yw'r unig ffordd i wireddu'r weledigaeth.

"Yr hyn sydd angen yw'r ewyllys gwleidyddol i wireddu uchelgais pobl o gwmpas y wlad."

Yng Nghyfrifiad 2001, roedd 192 o wardiau cyngor lle'r oedd dros 50% o drigolion yn siarad Cymraeg. Erbyn 2011, 157 oedd y ffigwr cyfatebol.

Bu gostyngiad o 2% yn nifer y bobl sy'n medru'r Gymraeg yng Nghymru yn 么l canlyniadau'r Cyfrifiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn flaenorol ei bod angen gwneud mwy i "hybu a hwyluso defnydd" yr iaith.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol