Cymdeithasau tai mewn peryg?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd y drefn lwfansau yn newid ym mis Ebrill

Mae honiad fod dyfodol cymdeithasau tai mewn peryg oherwydd y bydd pobl yn ei chael hi'n anodd i dalu rhent.

Daw hyn wrth i Gyngor ar Bopeth ddweud y gallai newidiadau yn y sustem lwfansau olygu bod mwy o denantiaid yn mynd i ddyled yng nghymoedd y de.

Dywed llywodraeth San Steffan fod angen newid y sustem lwfansau er mwyn ei gwneud yn decach.

Dywed Cyngor ar Bopeth yn Rhondda Cynon Taf eu bod wedi gweld cynnydd o 165% yn nifer y bobl sy mewn dyled o ran tannu rhent eleni.

Ystafelloedd gwely

Yn 么l prif weithredwr CAB yn Rhondda Cynon Taf, Erika Helps, bydd newidiadau i'r system lwfansau ym mis Ebrill yn gweld mwy o bobl yn ei chael hi yn anodd i dalu rhent.

"Rydym yn mynd i weld mwy o bobl yn dod atom gyda phroblemau ariannol, bydd angen cymorth arnynt i gyllido ac i reoli eu lwfansau yn y dyfodol.

"Yn y tymor byr bydd landlordiaid yn mynd ar 么l y bobl hyn oherwydd bod arian yn ddyledus. "

O fis Ebrill bydd teuluoedd mewn tai cyngor, neu sy'n rhentu o gymdeithasau tai, yn cael eu hasesu er mwyn gweld faint o ystafelloedd gwely sydd ei angen arnynt.

Bydd y rhai sydd 芒 gormod o le yn cael llai o lwfans

Dywed Nick Bennett, prif weithredwr Tai Cymunedol Cymru, corff sy'n cynrychioli cymdeithasau tai, y bydd lleihad mewn incwm rhent yn cael effaith ar y cymdeithasau tai.

Mae o'n dweud y bydd yn cael effaith ar eu gallu i ad-dalu tua 拢1.5 biliwn sydd wedi ei fenthyg er mwyn codi tai newydd.

"O ran y cymdeithasau tai, rhent i'w incwm sy'n helpu dod ag incwm sy'n ein galluogi i dalu'r ddyled ar yr arian rydym wedi ei fenthyg - 拢1.5 biliwn er mwy codi tai fforddiadwy yng Nghymru."

"Mae'r newidiadau yn bygwth yr holl drefn."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Pensiynau: "Nid bwriad y newidiadau yw gwneud pobl yn ddigartref.

"Y nod yw dod a thegwch i system sydd wedi bod allan o reolaeth.

"Mae'n deg fod pobl sy'n byw mewn tai sy'n fwy na'r hyn sydd eu hangen yn gwneud cyfraniad i'w rhent, neu yn symud i gartref sy'n fwy addas i'w anghenion - a dyna beth sy'n digwydd i bobl sy'n rhentu yn y sector breifat. "

Dywedodd nad oedd yn disgwyl y byddai llawr o bobl yn symud oherwydd y newidiadau.

Ychwanegodd fod 拢155 miliwn ar gael i helpu teuluoedd a 拢30 miliwn i helpu pobl anabl sydd 芒 thai wedi eu haddasu.