Iechyd: Gr诺p yn cychwyn her gyfreithiol

Disgrifiad o'r llun, Gorymdeithiodd cannoedd o bobl drwy Flaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn i wrthwynebu'r cynlluniau

Mae gr诺p ymgyrchu newydd yn bwriadu cychwyn her gyfreithiol i gynlluniau ad-drefnu dadleuol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru yn cynrychioli sawl gr诺p ymgyrchu lleol sy'n gwrthwynebu cynlluniau i gau ysbytai a chanoli rhai gwasanaethau.

Daeth tua 30 o ymgyrchwyr at ei gilydd nos Lun o Landudno, Y Fflint, Prestatyn, Llangollen a Blaenau Ffestiniog mewn cyfarfod yn Llanelwy er mwyn ffurfio'r gr诺p newydd.

Mi fydd y Gynghrair yn gofyn am gyngor cyfreithiol brys gyda'r nod o geisio cael adolygiad barnwrol.

Roedd rhai cynghorwyr sir yn bresennol yn y cyfarfod, ac fe wnaethon nhw gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am beidio ag ymgynghori'n ddigonol ar gynlluniau i gau ysbytai a symud gofal arbenigol i fabanod newydd anedig i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

'Nerth mewn undod'

Cyhoeddodd y Gynghrair ddatganiad wedi cyfarfod sy'n dweud:

"Rydym wedi dod at ein gilydd gan fod nerth mewn undod. Rydym yn ystyried her gyfreithiol i'r broses gyfan.

"Mae'r cyngor yr ydym wedi ei dderbyn yn awgrymu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn agored i her.

"Rydym ar ddeall bod bwrdd gweithredol y Cyngor Iechyd Cymuned yn cwrdd ddydd Mercher.

"Er ein bod wedi cael trafodaethau da gyda rhai o gynrychiolwyr lleol y Cyngor Iechyd Cymuned, mae gennym amheuon am y bwrdd gweithredol. Rydym yn gobeithio y bydd y bwrdd yn dechrau cynrychioli barn y gymuned."

Yn wyneb y posibilrwydd o adolygiad barnwrol, mae'r Gynghrair newydd hefyd wedi galw ar y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths i atal yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel "cau drwy'r drws cefn" unrhyw adnoddau cymunedol ar draws gogledd Cymru heb sicrhau bod adnoddau digonol yn barod i gymryd eu lle.