Pryder am y newid i'r dreth 'ystafell wely'

Disgrifiad o'r llun, Gall y dreth olygu bod rhaid i deuluoedd symud o'u cartrefi

Mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i warchod teuluoedd rhag cael eu gwneud yn ddigartre' pan fydd y dreth ar ystafelloedd gwely sb芒r yn dod i rym.

Mae'r newidiadau gan Lywodraeth San Steffan yn golygu bod nifer yr ystafelloedd gwely mewn t欧 neu fflat yn gorfod cyfateb yn union i nifer y bobl sy'n byw yno.

Os oes 'na 'stafell sb芒r, mi all teulu gael eu gorfodi yn 么l Cuts Watch Cymru i symud i eiddo llai - neu weld gostyngiad yn eu budd-daliadau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru eu bod nhw'n bryderus am effaith y dreth newydd, a ddaw i rym ar Ebrill 1.

Mae mudiad Cuts Watch Cymru yn poeni hefyd nad oes 'na ddigon o dai ar gael petai rhaid i bobl symud i dai llai.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Iau yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac asiantaethau tai i weithredu er mwyn amddiffyn tenantiaid rhag effeithiau'r rheolau newydd.

Dywed y mudiad mai Cymru fydd y rhan o'r DU a gaiff ei tharo waethaf oherwydd y bydd 46% o'r rhai sy'n derbyn budd-dal tai yn cael eu heffeithio.

Prinder llety

"Bydd o leiaf 40,000 o'r rhai sy'n hawlio budd-dal yng Nghymru yn cael eu heffeithio - y golled flynyddol ar gyfartaledd i denantiaid yng Nghymru gyda 'stafell wely sb芒r fydd tua 拢600," meddai'r adroddiad.

Dywedodd Cadeirydd CWC Victoria Winckler: "Mae'n un peth i ddweud wrth bobl am symud, ond mae prinder gwirioneddol o lety rhent yng Nghymru.

"Hyd yn oes all pobl ddod o hyd i rywle, bydd rhaid talu'r gost o symud a bydd pobl gydag anableddau yn colli unrhyw addasiadau sydd wedi'u gwneud i'w cartrefi. "

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru eu bod yn "hynod bryderus" am effaith y newidiadau ac yn "ystyried argymhellion adroddiad ar effaith posib y rheolau".

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Pensiynau: "Nid bwriad y newidiadau yw gwneud pobl yn ddigartref.

"Y nod yw dod a thegwch i system sydd wedi bod allan o reolaeth.

"Mae'n deg fod pobl sy'n byw mewn tai sy'n fwy na'r hyn sydd eu hangen yn gwneud cyfraniad i'w rhent, neu yn symud i gartref sy'n fwy addas i'w anghenion - a dyna beth sy'n digwydd i bobl sy'n rhentu yn y sector breifat. "

Dywedodd nad oedd yn disgwyl y byddai llawr o bobl yn symud oherwydd y newidiadau.

Ychwanegodd fod 拢155 miliwn ar gael i helpu teuluoedd a 拢30 miliwn i helpu pobl anabl sydd 芒 thai wedi eu haddasu.