麻豆官网首页入口

Rali i wrthwynebu cau swyddfa bost yng Nghaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Blwch post y tu allan i swyddfa bostFfynhonnell y llun, PA

Cynhelir rali yng Nghaerfyrddin i wrthwynebu cynllun i gau Swyddfa Bost Caerfyrddin ac adleoli'r gwasanaethau i siop ddydd Sadwrn.

Dywed Swyddfa'r Post nad oes penderfyniad wedi ei wneud ynghylch dyfodol y swyddfa bost yng Nghaerfyrddin ac fe fydd y gymdeithas leol yn gallu datgan eu barn yn ystod cyfnod ymgynghori.

Yn 么l Swyddfa'r Post fydd dim un o'r 10 aelod o staff sy'n gweithio yn Swyddfa Bost Caerfyrddin yn wynebu diswyddiadau gorfodol.

Mae'r gangen yn un o wyth sydd dan fygythiad yng Nghymru fel rhan o gynllun gwerth 拢1.3 biliwn i adleoli gwasanaethau 70 prif swyddfa bost yn y DU i siopau a busnesau.

Ymhlith y siaradwyr fydd yn ymgynnull yn Sgw芒r Nott am 11:00am i siarad yn erbyn y bwriad i gau'r swyddfa bost fydd AS Ceidwadol Gorllewin Carfyrddin a De penfro, Simon Hart ac AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas.

Deiseb

Mae protestwyr hefyd wedi lansio deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun.

"Dyma un o'r Swyddfeydd Post prysuraf yng ngorllewin Cymru," meddai'r Cynghorydd Jeff Thomas.

"Mae'n chwarae r么l hanfodol yn denu pobl i Heol y Brenin, lle mae siopau bach yn ei chael hi'n anodd iawn i oroesi'r dirwasgiad.

"Byddai colli Swyddfa'r Post yn ergyd greulon, ac yn enghraifft arall o sut mae asiantaethau canolog yn difetha gwasanaethau cyhoeddus a lleol."

Dywedodd y Cynghorydd Alan Speake: "Pan gafodd y Swyddfeydd Post bychain yn Heol y Bragdy a Heol y Prior eu cau ychydig flynyddoedd yn 么l, cafwyd addewid y byddai'r brif Swyddfa Bost yn ddiogel.

"Maent wedi mynd yn 么l ar eu gair. Mae hyn yn newyddion ofnadwy i'r dref."

Ymgynghoriad cyhoeddus

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post: "Fel rhan o'r rhaglen trawsnewid ar gyfer rhwydwaith Swyddfeydd Post y Goron, cafodd ein cydweithwyr yn ein cangen yn Heol y Brenin, Caerfyrddin, wybod am yr hyn sydd i ddigwydd yn y dyfodol a sut y gallai gael effaith ar eu swyddfa.

"Er mwyn parhau i fod yn y stryd fawr, byddwn yn chwilio am bartner manwerthu ar gyfer y gangen hon - fel y gallwn aros yn yr un lleoliad.

"Cafodd y gangen ei dewis fel un a allai ddechrau bod yn bartneriaeth 芒 m芒n-werthwr rhwng yr hydref eleni a gwanwyn 2015.

"Byddai unrhyw newid yn destun ymgynghoriad cyhoeddus am chwe wythnos er mwyn cael barn y gymuned leol. Rydym wedi ymrwymo i gael cangen Swyddfa'r Post yn yr ardal hon."

"Nid rhaglen gau yw hon oherwydd bydd y gwasanaeth i'n cwsmeriaid yn parhau trwy gyfrwng partner manwerth yn y dref.

"Does dim diswyddiadau gorfodol wedi'u cynllunio fel rhan o'r newid hwn."

"Mae canghennau'r Goron yn rhan sylfaenol o'r strategaeth dwf hirdymor, ond mae angen eu gwneud yn broffidiol oherwydd mae disgwyl colledion o oddeutu 拢40 miliwn eleni."

Mae'r wyth o ganghennau'r Goron dan fygythiad yng Nghymru ym Mhort Talbot, Castell-nedd, Treforys, Caerfyrddin, Caergybi, Llangefni, Y Rhyl a Threffynnon.

Fe fydd protest hefyd yng Nghastell-nedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol