Dyfodol yn cynnal eu cynhadledd polisi cyntaf

Disgrifiad o'r llun, Sefydlwyd y mudiad yn ystod haf 2012

Fe fydd y mudiad Dyfodol i'r Iaith yn cynnal ei chynhadledd bolisi gyntaf a hynny ar gynaliadwyedd a'r Gymraeg.

Cafodd y mudiad ei sefydlu ym mis Gorffennaf y llynedd.

Bwriad y gynhadledd yw trafod y cysylltiadau posibl rhwng yr agenda cynaliadwyedd a'r iaith Gymraeg.

Fe fydd hefyd yn gofyn a ddylai fod rhagor o gydweithio rhwng ymgyrchwyr iaith ac ymgyrchwyr amgylcheddol.

Ymhlith y siaradwyr fe fydd Gareth Clubb o Gyfeillion y Ddaear, Meirion Llywelyn o Fenter Iaith Conwy, Colin Evans sy'n pysgota ger Ynys Enlli, Dr Einir Young a'r Athro Gareth Wyn Jones o Brifysgol Bangor a'r Aelod Cynulliad Ll欧r Huws Gruffydd.

'Cyfle enfawr'

Bydd y gynhadledd hefyd yn ystyried sut i ddylanwadu ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, yn enwedig y Bil Datblygu Cynaliadwy a'r Bil Cynllunio, mewn modd fydd yn fuddiol i'r Gymraeg.

"Mi fydd y gynhadledd hon yn rhoi cyfle i ni edrych yn ofalus ar "gynaliadwyedd" yn ei holl ehangder a chymhlethdod," meddai Dr Einir Young, Cadeirydd y Gynhadledd.

"Does dim gwell amser na nawr i drafod y cyfle enfawr sydd gan Lywodraeth Cymru i gyfeirio yn benodol at y Gymraeg yn ei Bil Datblygu cynaliadwy, ac i gryfhau'r geiriad sydd yn y Papur Gwyn, sy'n cyfeirio'n niwlog at ein "hetifeddiaeth ddiwylliannol" yn hytrach nag at y Gymraeg yn benodol.

"Mae'n eithaf tebygol y bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud m么r a mynydd o ba mor flaengar yw Cymru'n deddfu fel hyn.

"Dyma gyfle i Gymru arwain yn rhyngwladol drwy gynnwys y Gymraeg yn y Bil ac i roi hwb i statws ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol mewn gwledydd a gwladwriaethau eraill."