麻豆官网首页入口

Llywodraeth yn gwrthod argymhellion Comisiynydd y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Leighton Andrews
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Andrews fod pryderon fod rhai o'r safonau arfaethedig y tu hwnt i gwmpas y Mesur a bod rhai'n gwrth-ddweud ei gilydd

Mae'r Gweinidog sydd 芒 chyfrifoldeb dros y Gymraeg wedi cyhoeddi na fydd yn bwrw ymlaen 芒 rhestr o safonau a argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Ddiwedd mis Tachwedd 2012, cyhoeddodd Meri Huws 37 o safonau drafft mewn perthynas 芒'r Gymraeg yn dilyn ymgynghoriad anstatudol a gynhaliwyd ganddi rhwng mis Mai a mis Awst 2012.

Yn 么l y Leighton Andrews, ni fydd yn derbyn argymhellion Ms Huws oherwydd na fyddai'r safonau, na'r model gweithredu arfaethedig, yn cyflawni'r nod o roi hawliau clir i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r iaith pan eu bod nhw'n dewis.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb gan ddweud eu bod yn pryderu fod y Gweinidog wedi ildio i bwysau gan y sector breifat a lob茂wyr eraill i wanhau gwasanaethau Cymraeg.

Dywedodd datganiad ar ran y llywodraeth fod Mr Andrews "yn bwriadu datblygu cyfres o safonau, yn seiliedig ar ymgynghoriad y Comisiynydd, a fydd yn bodloni'n llwyr y nodau polisi a adlewyrchir yn y Mesur a'r ymrwymiadau a wnaed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y Gweinidog, fel yr oedd bryd hynny".

'Yn fwy cymhleth'

Mae'r rheiny'n cynnwys:

  • Hawliau clir i siaradwyr Cymraeg, o ran gwasanaethau yn y Gymraeg;

  • Sicrhau fod siaradwyr Cymraeg a'r sefydliadau sy'n eu gwasanaethu mor glir 芒 phosibl ynghylch yr hyn a olyga'r hawliau hynny'n ymarferol;

  • Lleihau'r baich gweinyddol ar sefydliadau y mae gofyn iddynt ddarparu gwasanaethau Cymraeg fel y gallant ganolbwyntio ar wella'r modd y caiff y gwasanaethau hynny eu cyflenwi;

  • Sicrhau mwy o gysondeb rhwng sefydliadau o ran y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg.

Dywedodd Mr Andrews fod pryderon fod rhai o'r safonau arfaethedig y tu hwnt i gwmpas y Mesur a bod rhai'n gwrth-ddweud ei gilydd.

Yn 么l y Gweinidog, mae'r model a gynigiwyd gan y Comisiynydd yn fwy cymhleth na'r prosesau a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddatblygu cynlluniau iaith Gymraeg, a byddai'n gam yn 么l o ran lleihau'r baich gweinyddol ar sefydliadau.

Dywed Llywodraeth Cymru nad oes ymchwiliad statudol wedi'i wneud i'r safonau ac nad oedd y Comisiynydd wedi rhoi tystiolaeth i helpu i baratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l y Gweinidog mae'r model a gynigiwyd gan y Comisiynydd yn fwy cymhleth na'r prosesau a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddatblygu cynlluniau iaith Gymraeg

'Datblygu'r drafodaeth'

Cred y Gweinidog hefyd y byddai cynigion y Comisiynydd yn cymryd tan ganol 2015 i'w gweithredu- lle gellid gweithredu'r safonau, yn ei farn ef, yn gynt na hynny.

Dywedodd Mr Andrews: "Rwyf yn gwbl gefnogol i'r egwyddor a bennir yn y Mesur, fel y'i hadlewyrchir yn safonau arfaethedig y Comisiynydd, sef na ddylai'r Gymraeg, yng Nghymru, gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

"Mae'r gwaith a wnaed gan y Comisiynydd wedi bod yn ddefnyddiol ac yn adeiladol ac mae wedi datblygu'r drafodaeth ynghylch y safonau.

"Mae fy mhenderfyniad i beidio 芒 derbyn y safonau arfaethedig yn seiliedig ar ystyriaethau polisi yn ogystal ag ar gyngor cyfreithiol.

"Mae'r safonau hyn yn gymhleth ac mae gennyf bryderon ynghylch pa mor rhesymol a chymesur ydyn nhw.

"Hefyd, rwy'n tybio, gan ddilyn y broses a ragwelwyd wrth graffu ar y Mesur, y gallwn wneud y safonau cyntaf cyn diwedd 2014.

'Annerbyniol'

"Byddai hynny'n golygu bod yr hysbysiadau cydymffurfio cyntaf yn cael eu cyflwyno'n gynt nag ym model arfaethedig y Comisiynydd, lle byddai dwy gyfres o reoliadau'n cael eu gwneud ar wah芒n, a lle byddai angen asesiadau o effaith ac ymgynghori ar y ddwy gyfres.

"Rwy'n amcangyfrif y byddai dilyn y broses a argymhellwyd gan y Comisiynydd yn achosi oedi hyd at ganol 2015 o leiaf.

"Byddai oedi o'r fath yn annerbyniol gennyf i.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Bydd swyddogion y Gweinidog a swyddogion y comisiynydd nawr yn bwrw ymlaen i weithio gyda'n gilydd i adeiladu ar y seiliau cadarn sydd wedi eu gosod er mwyn datblygu set o safonau a fydd yn sicrhau na fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.

"Rwy'n croesawu'n fawr ymrwymiad y Gweinidog i weithio tuag at nod o osod y safonau cyn diwedd 2014 a'u gwneud yn benodol gymwys, a hefyd ei awydd i gydweithio 芒 fy swyddfa i er mwyn gwireddu hyn."

'Cwestiynau mawr'

Dywedodd AS Plaid Cymru, Alun Ffred Jones: "Cytunwyd mai pwrpas y safonau iaith oedd darparu canllawiau ynghylch beth rydym yn disgwyl sefydliadau a busnesau ddarparu fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn o ran darparu gwasanaethau'r iaith Gymraeg i ddefnyddwyr.

"Mae'n rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg sicrhau bod y safonau yn amlwg i ddefnyddwyr a darparwyr gwasanaethau a'u bod yn gwneud gwahaniaeth."

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae penderfyniad y Gweinidog i wrthod cyngor y Comisiynydd yn codi cwestiynau mawr am y broses ac am r么l y Comisiynydd.

"Pam penodi Comisiynydd ac wedyn anwybyddu ei chyngor arbenigol?

"Wrth reswm, mae'n arwain rhywun at y casgliad bod y Llywodraeth wedi penderfynu bod cyrff ac elw cwmn茂au mawrion, fel BT, Nwy Prydain, Arriva, yn bwysicach na'r Gymraeg.

"A hynny, er gwaethaf canlyniadau'r Cyfrifiad sydd yn dangos bod yr iaith yn wynebu argyfwng."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol