麻豆官网首页入口

Siom wedi cwyn am 'ormod o Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
CymraegFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r llythyr yn honni fod gormod o Gymraeg yn Ysgol Glanwydden erbyn hyn

Mae rhieni ysgol gynradd yn sir Conwy wedi mynegi syndod a siom ar 么l i lythyr gael ei ddosbarthu'n honni bod yr ysgol bellach wedi mynd yn "rhy Gymraeg a Chymreig".

Mae'r llythyr dadleuol a gafodd ei anfon at rieni Ysgol Glanwydden ym Mae Penrhyn, ger Llandudno, yn eu galw i gyfarfod yno ar Fawrth 13.

Mae'r llythyr yn honni fod gormod o Gymraeg yno erbyn hyn, a bod hynny wedi digwydd heb ymgynghori 芒'r rhieni.

Yn 么l adroddiad diweddara'r corff arolygu Estyn yn 2008, mae'r ysgol - sydd 芒 thua 300 o ddisgyblion - mewn ardal Seisnigaidd, a'r Gymraeg yn cael ei dysgu yno fel ail iaith.

Mae Estyn yn ystyried Ysgol Glanwydden yn ysgol dda iawn - a chafodd radd 2 yn yr arolwg diwetha'.

'Effaith andwyol'

Ond yn 么l llythyr gan un o rieni'r ysgol, Jacques Protic, mae pwyslais ieithyddol yr ysgol wedi newid ac mae'n galw ar rieni eraill i'w gefnogi ac i fynychu cyfarfod cyffredinol blynyddol cynta'r ysgol er mwyn gwrthwynebu'r sefyllfa.

Mae'r llythyr yn honni fod y sefyllfa yn cael "effaith andwyol" ar y disgyblion ac y dylai rhieni fynnu atebion i weld pwy benderfynodd newid y pwyslais iaith - ai'r athrawon, y llywodraethwyr neu gyngor Conwy.

Honnai Mr Protic fod yr ysgol yn "enghraifft wych o pam fod gan addysg Gymraeg statws mor isel o'i gymharu 芒 gweddill Prydain a gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd".

"Mae dros 50% o addysg bellach yno yn Gymraeg - pob canran sydd yna yn gwneud hyn yn ganran yn llai ar y Saesneg - a dyna pam fod plant yn tangyflawni ac yn cael eu difrodi yn gymdeithasol ac yn addysgiadol ac yn y rhan fwya' o achosion am weddill eu hoes", meddai'r llythyr.

Llywodraethwyr

Mewn llythyr ar wahan at lywodraethwyr yr ysgol, mae Mr Protic yn gofyn iddynt sut y gellir cyfiawnhau bod holl athrawon "ysgol gyfrwng Saesneg sy'n gwasanaethu cymuned Saesneg ei hiaith" yn athrawon Cymraeg eu hiaith.

Mae Mr Protic hefyd yn gyfrifol am wefan o'r enw Glasnost, lle mae 'na erthyglau yn honni bod yr "arbrawf iaith Gymraeg" wedi methu.

Yn 么l Mr Protic ac ysgrifenyddes y gr诺p cyswllt rhieni ac athrawon, mae'r llythyr yn adlewyrchu teimladau nifer sydd ofn mynegi barn am y sefyllfa.

Ond roedd rhai o'r rhieni y bu 麻豆官网首页入口 Cymru'n siarad 芒 nhw'n dweud fod yr ysgol yn "ardderchog" ac nad oedd sail i'r cwynion.

Dywedodd Cyngor Conwy mewn datganiad fod eu hadran gyfreithiol yn edrych ar gynnwys y llythyr ac nad yw pwyslais ieithyddol yr ysgol wedi newid ers blynyddoedd - mai Saesneg gyda defnydd sylweddol o Gymraeg yw categori Ysgol Glanwydden.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol