Cyngor Merthyr Tudful i golli cyfrifoldeb dros addysg

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mr Andrews ei fod yn ffafrio gwasanaeth addysg ar y cyd 芒 Chyngor Rhondda Cynon Taf

Mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi na fydd Cyngor Merthyr Tudful yn gyfrifol am addysg yn y dyfodol.

Dywedodd Mr Andrews ei fod yn ffafrio gwasanaeth addysg ar y cyd 芒 Chyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae trafodaethau wedi dechrau'n barod.

Posibiliadau eraill, meddai, fyddai penodi comisiynwyr i redeg y gwasanaeth, neu ddefnyddio corff fel "ymddiriedolaeth nid-er-elw neu d卯m adfer o'r sector preifat".

Yn gynharach yn y mis dywedodd Estyn, y corff sy'n arolygu addysg yng Nghymru, y dylai gwasanaethau addysg dau awdurdod lleol - Sir Fynwy a Merthyr - fod mewn mesurau arbennig.

Yn 么l Estyn, mi ddylai'r safonau ym Merthyr fod yn uwch.

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud bod yr adroddiad ar addysg Merthyr yn "un o'r rhai gwaethaf i mi eu darllen".

"Mae'r cyfrifoldeb am wasanaethau yn yr awdurdodau sy'n methu yn disgyn ar ysgwyddau'r rhai sy'n rheoli yno, ond fe fyddaf yn gweithredu pan mae cynghorau yn methu" meddai.

Dywedodd nad oedd ganddo "unrhyw hyder y byddai Merthyr yn datrys y problemau hyn ar eu pennau eu hunain, hyd yn oed gyda chefnogaeth".

Wrth gyfeirio at y sefyllfa yn Sir Fynwy, dywedodd fod y cyngor yno wedi gweithredu trwy sefydlu t卯m newydd o uwchreolwyr a'u bod wedi penodi cyfarwyddwr addysg newydd fydd yn dechrau ar ei waith ym mis Mai.