麻豆官网首页入口

Galw am ymchwiliad i gost ymgynghoriad dau fwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd
Protest Blaenau Ffestiniog
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 'na brotestiadau wedi bod mewn sawl ardal o'r gogledd yn erbyn y newidiadau

Mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru yn galw ar yr Archwilydd Cyffredinol i ymchwilio ar 么l iddi ddod i'r amlwg fod y broses ymgynghori yn ardaloedd byrddau iechyd y gogledd a'r gorllewin wedi costio o leia' 拢430,000 hyd yn hyn.

Mae Llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd yn y Cynulliad, Darren Millar, wedi cyfeirio'r mater at Swyddfa'r Archwilydd ar 么l i'r byrddau iechyd gyhoeddi'r ffigyrau o ganlyniad i geisiadau o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth.

Mae o wedi cwestiynu'r ffordd gafodd arian cyhoeddus ei wario.

Does 'na ddim sylw gan y byrddau iechyd na Llywodraeth Cymru hyd yn hyn.

Mae 'na gryn feirniadaeth wedi bod o'r broses ymgynghori gafodd ei chynnal ar 么l i'r byrddau iechyd gyhoeddi cynlluniau dadleuol i ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yn eu hardaloedd.

Mae hi wedi dod i'r amlwg bod y gost o gynnal y broses ymgynghori yn ardal Hywel Dda wedi costio dros 拢310,000 sy'n cynnwys y gost o hysbysu'r cyhoedd am y broses o flaen llaw.

Beirniadaeth

Disgrifiad,

Gwenllian Grigg yn holi Paul Davies AC Preseli Penfro

拢125,000 oedd y gost i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ond dydi hyn ddim yn cynnwys yr elfen hysbysu, dim ond yr ymgynghoriad ei hun.

Mae llefarydd Cymdeithas Feddygol y BMA yng Nghymru, Dr Phil White, wedi bod yn feirniadol o gynlluniau ad-drefnu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae o wedi amau gwerth y broses ymgynghori.

"Os ydach chi'n mynd i ymgynghori efo pobl mae 'na gost wrth gwrs," meddai.

'Heb newid cynlluniau'

"Dwi'n si诺r bod y gost yn llawer mwy, mae 'na feddygon wedi eu tynnu ffwrdd o'u gwaith i fynd i'r ymgynghoriad.

"Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen am bum mlynedd

"Fe ddylen ni gael syniad i weld paham fod 'na wariant ond oes oedd 'na gynllun ar y gweill i ddechrau i newid pethau a wedyn ymgynghori a ddim yn newid y cynllun gwreiddiol, efallai fe ddylen nhw edrych i mewn i hynny yn hytrach na'r gwariant."

Wrth ymateb i'r ffigyrau dywedodd Mr Millar bod y byrddau wedi gwario miloedd o bunnoedd ar ymgynghoriadau drud.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Darren Millar wedi cyfeirio'r mater at Swyddfa'r Archwilydd

"Mae barn gymunedol - sydd wedi cael ei gasglu ar gost sylweddol - wedi cael ei anwybyddu yn llwyr.

"O ystyried yr arian a gafodd ei wario, mae'n fwy annerbyniol bod hi'n ymddangos bod cymaint o ymateb wedi cael ei dalu o'r neilltu."

Ychwanegodd bod rhaid i'r Gweinidog Iechyd fod yn atebol a chyfadde' mai toriadau yng nghyllidebau'r Blaid Lafur sydd i'w feio am hyn.

'Anwybyddu'

Dywedodd Aled Roberts, Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, mai ymarferiad yn unig oedd yr ymgynghoriad i ddangos eu bod wedi ymgynghori gyda'r cyhoedd sy'n defnyddio gwasanaethau.

"Mae pobl y gogledd yn gwbl yn erbyn y cynlluniau ond mae'r bwrdd a'r cyngor cymunedol wedi anwybyddu barn y bobl."

Dywedodd bod nifer heb eu hargyhoeddi y bydd y gwasanaethau newydd yn eu lle cyn i'r gwasanaethau presennol ddod i ben gan olygu bod 'na "wagle yn y ddarpariaeth".

"Nid dyma'r ffordd i wneud newidiadau yn y gwasanaeth iechyd," ychwanegodd.

Dywedodd Ll欧r Huws Gruffydd, AC Plaid Cymru dros y Gogledd, bod yr ymgynghoriad wedi bod yn gostus gan fod angen yr arian ar wasanaethau iechyd yn y gogledd.

"Mae'n ddibwys gan fod hyn wedi anwybyddu pryderon go iawn cleifion y gogledd, y cymunedau ac arbenigwyr fel y BMA, Coleg Brenhinol y Nyrsys a Choleg Brenhinol y Bydwragedd.

"Mae miloedd eisoes wedi gorymdeithio i achub eu gwasanaethau ac mae 'na wrthdystiadau mwy wedi eu trefnu i atgoffa'r gweinidog iechyd pa mor werthfawr ydi'r gwasanaeth iechyd i drigolion yr ardal."