Comisiwn Silk: Llywodraeth y DU yn rhoi tystiolaeth

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i Gomisiwn Silk gyflwyno ei gasgliadau erbyn gwanwyn 2014

Bydd y glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer datganoli yng Nghymru'n ddiweddarach.

Bydd gweinidogion yn cyflwyno tystiolaeth i gomisiwn trawsbleidiol sy'n edrych ar ystod pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Fis diwetha' fe alwodd Llywodraeth Cymru am ddatganoli plismona ac, yn y tymor hir, cyfiawnder troseddol.

Mae'r comisiwn, a sefydliwyd gan Lywodraeth y DU, wedi derbyn dros 100 eitem o dystiolaeth yn yr ail ran o'i waith ar bwerau'r cynulliad.

Bydd tystiolaeth y llywodraeth ei hun ddydd Mercher yn datgelu ei safbwynt ar faterion fel datganoli plismona, prosiectau ynni mawr ac a ddylid trosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarlledu o San Steffan i Fae Caerdydd.

Yn 么l Golygydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru, Betsan Powys, mae darganfod safbwynt gweinidogion ar faterion fel hyn yn rhan allweddol o'r broses.

Mae disgwyl i'r comisiwn gyhoeddi ei gasgliadau yng ngwanwyn 2014.