麻豆官网首页入口

Galw ar gomisiynydd i ystyried dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Heini Gruffydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heini Gruffudd yw cadeirydd Dyfodol i'r Iaith

Mae cadeirydd mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi dweud y dylai Comisiynydd y Gymraeg ystyried ei dyfodol hi.

Mynnodd Heini Gruffudd fod y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ei chynlluniau am safonau i'r Gymraeg mewn cyrff cyhoeddus yn tanseilio'r comisiynydd.

Mae Ms Huws wedi gwadu hynny'n bendant.

Dywedodd Mr Gruffudd: "Dychmygwch am eiliad fod Comisiynydd Plant neu Gomisiynydd yr Henoed wedi rhoi argymhellion i'r llywodraeth a bod y cyfan wedi ei wrthod.

"Byddai hynny yn bendant yn gofyn cwestiwn i chi'ch hun am eich safle yn y swydd.

"Os yw hi'n teimlo bod yr holl ymdrech am y flwyddyn wedi mynd i'r gwellt, fel petai, mae'n gwestiwn y mae'n rhaid iddi ofyn ... mae hynny'n glir."

Dywedodd fod Dyfodol i'r Iaith - gr诺p a sefydlwyd i lob茂o dros yr iaith - yn ystyried delio'n uniongyrchol gyda'r gweinidog, Leighton Andrews, yn y dyfodol.

Fe yn Llywodraeth Cymru sydd 芒 chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg.

'Cyfrannu'

Ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher, roedd Ms Huws wedi dweud: "Y Llywodraeth ar ddiwedd y dydd sydd 芒 chyfrifoldeb am ddrafftio'r safonau - mae hynny yn y mesur yn glir.

"Cyfrannu at y broses wnaethon ni yn fy r么l i fel comisiynydd a'r cyfrifoldeb sydd arna' i fel person, i ryw raddau, sy'n cynrychioli buddiannau defnyddwyr y Gymraeg a statws y Gymraeg yng Nghymru."

Pwysleisiodd hi mai dim ond ers mis Ebrill y llynedd yr oedd swydd y comisiynydd yn bodoli.

"Gadewch i ni gael amser i symud y drefn yma 'mlaen, gadewch i ni gael amser i'r comisiynydd brofi'r r么l a rhoi amser i Lywodraeth Cymru i chwarae eu r么l nhw o ran Mesur y Gymraeg hefyd."