麻豆官网首页入口

Bwrdd iechyd 'heb ddilyn y ddeddf'

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Hywel DdaFfynhonnell y llun, other

Mae bwrdd iechyd wedi cael ei gyhuddo o roi merch mewn perygl o niwed drwy beidio 芒 gweithredu ar fygythiadau i'w lladd.

Mewn adroddiad annibynnol beirniadol a welwyd gan 麻豆官网首页入口 Cymru, mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn dweud bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gadael y teulu i lawr ar bedwar achlysur.

Mae tad y ferch wedi honni nad oedd gwarchod plant "ar radar" y bwrdd iechyd er i glaf ysbyty ei bygwth hi.

Mae'r bwrdd iechyd wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.

Dywedodd y person a wnaeth y g诺yn - sy'n cael ei adnabod yn yr adroddiad fel Mr G - fod yr ysbyty wedi methu ystyried na gweithredu ar risg hysbys o niwed i'w ferch.

'Stamp ail ddosbarth'

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd Mr G fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gwbl esgeulus pan wnaeth claf fygwth lladd ei ferch.

"Doedd gwarchod plant ddim hyd yn oed ar radar y bwrdd iechyd," meddai. "Ar un achlysur fe gafodd y claf ei ryddhau o'r ysbyty a'r unig fodd y gwnaethon nhw ddelio gyda'r risg oedd ysgrifennu llythyr ataf gyda stamp ail ddosbarth yn dweud bod bygythiadau i fywyd fy merch.

"Doeddwn i ddim yn gallu deall sut y gallai unrhyw un fod mor gwbl esgeulus."

Mae adroddiad yr ombwdsmon yn dweud y dylid fod wedi gwneud atgyfeiriadau gwarchod plant brys ar bedwar achlysur gwahanol. Mae'n ychwanegu:

"Roedd peidio 芒 gwneud hynny yn fethiant yn 么l y gyfraith, canllawiau statudol, canllawiau proffesiynol a synnwyr cyffredin. Yn fwy na hynny, roedd potensial i roi (ei ferch) mewn perygl.

"Roedd peidio 芒 gwneud atgyfeiriadau ar sawl achlysur yn dangos diffyg dealltwriaeth llwyr o beth ddylai arwain at atgyfeirio (gwarchod plant).

"Ni chafodd Mr G ei rybuddio pan ganiatawyd i'r claf adael yr ysbyty heb oruchwyliaeth er gwaethaf bygythiadau i'r ferch, ac ni wnaeth staff y bwrdd iechyd atgyfeiriad gwarchod plant."

Dywedodd yr adroddiad fod mesurau gwarchod plant sylfaenol wedi cael eu hanwybyddu.

Mae wedi dweud hefyd fod enghreifftiau niferus o'r bwrdd iechyd yn ymddwyn yn wallus wrth wneud penderfyniad, gan roi merch Mr G mewn perygl ychwanegol, diangen.

'Diffygiol'

Ychwanegodd Mr G: "Ar hyd fy oes rwyf wedi credu yn y syniad o Wasanaeth Iechyd ac rwyf am iddo weithio - ond sut allwch chi wneud iddo weithio os yw mor ddiffygiol yn y b么n?

"Mae'n ymddangos ei fod yn ddiffygiol ar bob lefel, a fedra i ddim dechrau deall y peth. Rhaid i bobl gael eu cadw'n atebol am hyn."

Dywedodd yr ombwdsmon: "Mae'r gyfraith a'r canllawiau yn glir yngl欧n 芒 gwarchod plant. Mae Gweithdrefnau Gwarchod Plant Cymru Gyfan yn ddiamwys. Ymhlith methiannau eraill, mae staff y bwrdd iechyd wedi ymddwyn, ar y cyfan, fel pe baen nhw ddim yn bodoli."

Cytunodd yr ombwdsmon fod ymateb y bwrdd iechyd i gwynion Mr G yn annigonol.

Dywedodd Mr G ei fod wedi cael ei anwybyddu. "Rwy'n credu mai eu barn nhw oedd 'Ni sy'n gwybod orau a dydyn ni ddim angen unrhyw un arall i'n cynorthwyo i wneud y peth iawn'.

"Ar yr un pryd roedden nhw'n gwbl anwybodus yn nhermau gwarchod plant. Hyd yn oed pan oeddwn yn anfon e-byst gyda'r pennawd 'mae hwn yn fater gwarchod plant' ni wnaethon nhw ymateb.

"Y cyfan oedden nhw'n dweud oedd bod rhaid i mi fynd 芒 fy nghwynion at yr adran gwynion fel pe bae'r cyfan yn ddim byd i wneud 芒 nhw. Un tro fe gefais lythyr yn dweud nad oedden nhw'n cyfathrebu drwy e-byst hyd yn oed."

Ymddiheuriad

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai prif weithredwr y bwrdd, yr Athro Trevor Purt, ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda i Mr G oherwydd yr anghyfiawnder a ddioddefodd.

Nid yw Mr G wedi derbyn llythyr er bod dros fis wedi mynd heibio ers iddo gael yr adroddiad.

Dywedodd Mr G fod y bwrdd iechyd yn rhoi plant eraill mewn perygl. "Mae eu harferion yn beryglus iawn. Yn yr achos hwn, yn ffodus, chafodd neb niwed, ond lwc yw hynny.

"Dyw hynny ddim oherwydd unrhyw reolaeth o risg dim ond bod e ddim wedi digwydd.

"Beth sy'n rhaid digwydd cyn bod rhywbeth yn newid? Beth sy'n rhaid digwydd fel nad yw'n plant yn cael eu rhoi mewn perygl yn y ffordd yma?"

Roedd yr ombwdsmon yn cydnabod bod y sefyllfa wedi cyflwyno heriau anodd ac anghyffredin i staff y bwrdd iechyd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd Meddwl y bwrdd iechyd, Karen Howell: "Cafodd adroddiad yr ombwdsmon ei gyhoeddi 芒chyfyngiadau ac felly ni allwn ni wneud sylw pellach."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol