Ysbyty Cymunedol Llangollen yn cau wedi 137 o flynyddoedd

Ffynhonnell y llun, BCUHB

Disgrifiad o'r llun, Bydd gwasanaethau Ysbyty Llangollen yn cael eu hadleoli fel rhan o ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd

Bron 137 o flynyddoedd ers agor ei ddrysau mae Ysbyty Cymunedol Llangollen yn cau ddydd Sadwrn.

Rhan yw hon o gynlluniau ad-drefnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bydd gwasanaethau'r ysbyty yn cael eu symud o Ganolfan iechyd Llangollen, gyda gwelyau i gleifion yn cael eu symud i'r Waun ger Wrecsam.

Bu ymgyrchwyr yn brwydro i gadw'r ysbyty, gan ddweud bod y bwrdd iechyd wedi diystyrru eu cyfrifoldebau.

Dywedodd un o'r ymgyrchwyr, Alaian Kahan: "Dyw'r bwrdd iechyd yn amlwg ddim yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw teithio i'r Wyddgrug o Langollen a Dyffryn Dyfrdwy."

Ond dywedodd cyfarwyddwr gwasanaethau cychwynnol, cymunedol a iechyd meddwl, Geoff Lang, fod hwn yn symudiad at ofal mwy integredig.

'Cydweithio'

O ddydd Llun ymlaen bydd holl apwyntiadau cleifion allanol, casglu samplau gwaed ac apwyntiadau ffisiotherapi yn cael eu cynnal yn y ganolfan iechyd.

Dywedodd Mr Lang: "Bydd symud y gwasanaethau i'r ganolfan iechyd yn gymorth i ni datblygu ein cydweithio gyda'n partneriaid ym meddygfa cyffredinol Llangollen, ac rydym yn bwriadu ehangu rhai o'r gwasanaethau yma dros y misoedd nesaf.

Disgrifiad o'r llun, Bu nifer o brotestiadau yn erbyn y cau

"Mae hwn yn gam pwysig tuag at y gofal integredig yr ydym am ei ddarpau i bobl y dref."

Dechreuodd y gwaith o godi'r ysbyty yn 1875 ac fe aeth y claf cyntaf i mewn ar Ebrill 13, 1876.

Cafodd yr adeilad ei ymestyn yn 1884 i ddarparu wardiau ychwanegol a theatr lawdriniaeth.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd nifer o filwyr driniaeth yno am effeithiau anadlu nwy ac anafiadau saethu.

Cafodd yr ysbyty ei ymestyn eto yn 1925 ac yn 1958 i gynnwys adran ffisiotherapi.