'Mwy ddim yn gallu talu rhent'

Ffynhonnell y llun, Arall

Disgrifiad o'r llun, 'Treth ystafell wely': Un mudiad wedi amcangyfri y bydd 4,000 o denantiaid mewn perygl o gael eu troi allan

Mae darparwyr tai cymdeithasol wedi rhybuddio y bydd mwy o bobl yn methu 芒 thalu rhent oherwydd newidiadau i'r system fudd-daliadau.

Bydd y newid yn dod i rym yn Ebrill.

Mewn ardal beilot, Torfaen, mae dyledion rhent wedi codi saith gwaith i 拢140,000 o fewn saith mis.

Casglodd ymchwil rhaglen Eye on Wales 麻豆官网首页入口 Cymru fod tenantiaid yn llawer mwy tebygol o fethu 芒 thalu eu rhent pan fo budd-daliadau tai yn cael eu talu'n syth iddyn nhw yn lle mynd yn uniongyrchol at landlordiaid.

Mae Llywodraeth Prydain yn mynnu y bydd cymorth ar gael ac y bydd y newidiadau'n golygu bod mililynau o bobl ar eu hennill.

Dywedodd prif weithredwr Tai Cymunedol Bron Afon, Duncan Forbes, fod y cynnydd i 拢140,000 yn arwyddocaol.

'Troi allan'

"Rhaid cofio bod llawer o'r rhain ddim wedi bod mewn dyled o'r blaen.

"Hyd yn hyn rydyn ni wedi lleihau'r nifer sy'n cael eu troi allan o'r tai ond, yn y pen draw, bydd y nifer yn codi.

"Os nad oes ateb tymor hir i dalu'r rhent, bydd yn anodd iawn i ni fel landlord."

Dywedodd Steve Clarke, rheolwr gyfarwyddwr Ffederasiwn Tenantiaid Cymru, mai taliadau uniongyrchol oedd un o'r problemau.

Y broblem arall yw "treth ystafell wely" sy'n dod i rym yn Ebrill ac mae ei fudiad wedi amcangyfri y bydd 4,000 o denantiaid mewn perygl o gael eu troi allan cyn bod Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno yn Hydref.

'Yn rhy gyflym'

"Mae egwyddor Credyd Cynhwysol yn dda ond mae'n cael ei gyflwyno'n rhy gyflym ... mae'r sector wirfoddol yn ei chael hi'n anodd ymdopi 芒'r newidiadau.

"Ac mae llawer o bobol ar incwm bach yn cael gwaith rheoli eu cyllideb."

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud eu bod yn ymroddedig i "gefnogwyr hawlwyr budd-dal bregus".

Dywedodd y Gweinidog Diwygio Lles yr Arglwydd Freud: "Bydd Credyd Cynhwysol yn syml ac yn rhwydd i hawlwyr a byddwn yn sicrhau y bydd pobl fregus yn cael y gefnogaeth angenrheidiol."

Eye on Wales, Radio Wales, 1:30pm