Trefn ar-lein yn bygwth hawlwyr budd-daliadau?

Disgrifiad o'r llun, Eleni mae Llywodraeth Cymru'n gwario 拢1m ar gynhwysiant digidol

Mae rhai'n poeni y bydd hawlwyr ar eu colled pan fydd system fudd-daliadau yn cael ei gweithredu ar-lein yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Eleni mae Llywodraeth Cymru yn gwario 拢1m ar gynhwysiant digidol, yn annog pobl i ddefnyddio cyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd lleol.

Bydd 拢21m o arian Ewrop yn cael ei wario am bedair blynedd ar ostwng y nifer na all ddefnyddio cyfrifiadur.

Bydd angen i hawlwyr ddefnyddio cyfrifiadur er mwyn dangos eu bod yn chwilio am waith. Y gosb am beidio 芒 gwneud hyn fydd budd-daliadau is.

Gofynnwyd i'r Adran Gwaith a Phensiynau am sylw.

Ym Mlaenau Gwent mae'r nifer fwya' yng Nghymru o bobl na all ddefnyddio cyfrifiadur.

Bob dydd mae Kenneth Power o Dredegar yn mynd i'r llyfrgell leol er mwyn chwilio am waith ar-lein.

'Diodde'n barod'

"Mae cyfrifiadur yn y t欧 ond allwn ni ddim fforddio ei ddefnyddio," meddai Mr Power, sydd wedi bod yn ddiwaith am 18 mis.

Dywedodd y Cynghorydd Hayden Trollope fod y cyngor yn gofidio am yr effaith ar rai pobl.

"Bydd newid y drefn yn effeithio ar rai sy'n diodde'n barod, y rhai ag anableddau sy'n cael gwaith defnyddio'r we."

Dywedodd y Gweinidog Cydraddoldeb, Jane Hutt: "Bydd rhaid i ni sicrhau bod pawb ar-lein a rhaid i Lywodraeth Prydain gael y neges bod angen mwy o adnoddau i gyflawni hyn.

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n trefnu adnoddau oherwydd bydd yr hawlwyr yn wynebu cyfnod anodd iawn."

Pan ddaw Credyd Cynhwysol i rym yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd pob budd-dal yn cael ei gyfuno'n un credyd fydd yn cael ei dalu i gyfri' banc pob hawliwr bob mis.