Arian gan y Llywodraeth i adfywio mwy o ardaloedd?

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weld mwy o gydweithio yn y broses adfywio

Bydd arian i adfywio cymunedau yn cael ei ddosbarthu rhwng llai o leoliadau, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd hyd at £30 miliwn ar gael i drawsnewid ardaloedd sy'n dirywio - sydd £4 miliwn yn llai na sydd wedi'i gynnwys yng nghyllideb eleni.

Ond mae'n debyg y bydd ffynonellau eraill o arian ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Cyn lansio'r polisi adnewyddu newydd brynhawn dydd Llun, dywedodd y llywodraeth ei bod eisiau gweld y defnydd gorau posib yn cael ei wneud o'r arian.

Ond bydd saith Ardal Adfywio yn cael eu diddymu, gyda lleoliadau ar draws Cymru wedyn yn gallu gwneud cais am grantiau.

Yn ôl y llywodraeth, bydd y polisi newydd yn "targedu buddsoddiad yn fwy dwys mewn llai o leoedd."

Maen nhw hefyd yn awyddus i'r sector preifat fod yn rhan o unrhyw ymdrechion i adfywio trefi a phentrefi.

Blaenoriaethau

Dywed y llywodraeth y bydd angen i brosiectau ymrwymo i ddarparu swyddi, sicrhau twf a helpu pobl i gael gwaith.

Canol trefi, cymunedau arfordirol a chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf fydd yn cael blaenoriaeth wrth benderfynu ar grantiau.

Bydd iechyd, cyfoeth a sgiliau pobl leol yn cael ei fonitro i weld pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran cyflawni "amcanion cenedlaethol penodol".

Er enghraifft, bydd data yn cael ei gasglu ar gyfran y teuluoedd ble does neb yn gweithio, yn ogystal â nifer y bobl sydd â chymwysterau a nifer yr oedolion sy'n dweud bod cyflwr eu hiechyd yn dda.

Cydweithio

"Mae pethau'n dynn ar y pwrs cyhoeddus ar hyn o bryd, felly mae angen i ni wneud yn siŵr bod pob punt sy'n cael ei gwario − boed hynny ar iechyd, trafnidaeth neu addysg − yn cael effaith ar adfywio," meddai Huw Lewis, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Cymru, cyn lansio'r Fframwaith.

"Mae maint yr her yn pwysleisio bod angen i ni weithio gyda'n gilydd ar draws y llywodraeth a chydweithredu â'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ynghyd â'r sector preifat, i gefnogi arloesedd ac i rannu arferion da.

"Drwy gydweithio mewn ffordd fwy penodol ledled Cymru ym maes adfywio, gallwn newid y ffordd y byddwn yn buddsoddi yn ein trefi a'n cymunedau am ddegawd i ddod. Ni fydd ffiniau bellach ar fuddsoddiad adfywio.

"Byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno cynlluniau buddsoddi a fydd yn helpu i newid ein cymunedau er gwell yn yr hirdymor, gan fynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd, a lliniaru effeithiau'r diwygiadau lles."