System raddio TGAU ar wah芒n yn 'anghynaladwy'

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Bu'n rhaid ailraddio papurau Saesneg Iaith tua 2,3000 o fyfyrwyr o Gymru'r llynedd

Mae corff arholi mwya' Cymru wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Cymru i sefydlu ei system ei hun ar gyfer safoni arholiadau TGAU Saesneg Iaith.

Dywedodd CBAC y byddai cael safonau gwahanol ar gyfer yr un cymhwyster yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn "anghynaladwy".

Fis diwetha', cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews y byddai Cymru'n sefydlu ei threfn ei hun o ran safoni'r papurau TGAU Saesneg Iaith er mwyn osgoi ffrae debyg i'r un yr haf diwetha' yngl欧n 芒 chanlyniadau.

Bryd hynny bu'n rhaid ailraddio papurau tua 2,3000 o fyfyrwyr o Gymru.

Byddai'r drefn newydd yn golygu y gallai gradd 'C' yng Nghymru fod yn adlewyrchiad o farciau is neu uwch nag yn Lloegr neu Gogledd Iwerddon.

Mae gan Yr Alban eisoes drefn safoni annibynnol.

'Annhegwch'

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor o Aelodau Seneddol fore dydd Mawrth, dywedodd Gareth Pierce, prif weithredwr CBAC, nad oedd yn credu fod y cynllun yn gynaliadwy.

Ond gwrthododd Mr Andrews yr honiad y byddai graddau yng Nghymru yn adlewyrchu graddau is, gan fynnu y gallai safonau yng Nghymru fod yn fwy llym.

Fe wnaeth hefyd amddiffyn ei benderfyniad i ailraddio papurau Saesneg Iaith y llynedd.

Dywedodd Mr Andrews wrth ASau fod ei benderfyniad yn "briodol" ac mae'r nod oedd mynd i'r afael ag unrhyw "annhegwch" yn y modd yr oedd graddau'n cael eu penderfynu.

"Rwy'n credu fod angen edrych yn ofalus ar gymwysterau sy'n ddilys yn y tair gwlad," ychwanegodd.

Ond galwodd Mr Pierce am "rannu'r un safonau" mewn arholiadau oedd yn cael eu sefyll yn y gwledydd gwahanol.

Dywedodd "nad oedd yn gynaliadwy" i gael gwahanol safonau ar gyfer yr un cymhwyster.